Cysylltau defnyddiol

Cyngor cyffredinol

Cadarn dros Oed: Dyma ymgyrch y Llywodraeth i daclo gwahaniaethu ar sail oedran ac i hybu buddion busnes amrywioldeb oed yn y gweithle. Mae eu gwefan yn dangos Côd Ymarfer ar Amrywioldeb Oed yn y Gwaith ac Ymarfer Da.
Cewch fwy o wybodaeth ar Wefan Cadarn Dros Oed

Cyngor ar Bopeth: Cysylltwch â Chyngor ar Bopeth am gyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddim. Cewch fanylion eich Cyngor ar Bopeth yn eich llyfr ffôn lleol.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Cyngor ar Bopeth

Consumer Education: Mae gwefan Consumer Education yn cynnwys gwybodaeth a chyngor cyffredinol ar gyfer cwsmeriaid. Ar y safle mae manylion am siopa, arian, y gyfraith, iechyd, amgylchfyd a gwybodaeth ar sut i gwyno ynglyn â nwyddau diffygiol a gwasanaethau.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Consumer Education

Directgov: Mae’r safle hon yn eich arwain i’r lle iawn am help a chyngor sydd ar gael drwy fudiadau gwirfoddol a’r llywodraeth. Mae’n darparu gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer mudiadau gwirfoddol a chymunedol, cyfleon hyfforddi a chyngor iechyd a ffitrwydd.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Directgov

Swyddfa’r Warcheidwaeth Gyhoeddus: Mae’r Swyddfa’r Warcheidwaeth Gyhoeddus yn darparu gwasanaethau diogelwch ariannol ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu rheoli eu materion ariannol eu hunain oherwydd salwch meddwl neu analluogrwydd. Maent hefyd yn cefnogi teuluoedd ac ymgynghorwyr y person sydd â salwch meddwl, yn aml ar ôl i rhywun wneud cais i’r llys i reoli materion ariannol y person hwnnw. Mae gan eu gwefan wybodaeth ar beth i’w wneud os na all ffrind neu aelod o’r teulu reoli eu materion eu hunain (penodi derbynnydd), yn ogystal a gwybodaeth a llinell gymorth ar gyfer cwestiynau am benodi person i reoli materion ariannol ac eiddo person arall ar yr achlysur pan nad yw’r person yn gallu gweithredu (pwer atwrnai parhaol).
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Swyddfa’r Warcheidwaeth Gyhoeddus

If you live in Scotland, find out more from the Scottish Office of the Public Guardian website

Dolen Gyswllt Busnes: Mae’r wefan Business Link yn darparu gwybodaeth busnes uniongyrchol a mynediad i ystod eang o gefnogaeth busnes.