Credyd Pensiwn

60 oed neu'n hyn ac o dan 65 oed?

Rydych yn debygol o fod â’r hawl i Gredyd Pensiwn os yw eich incwm wythnosol yn llai na:

  • £124.05 os ydych yn sengl
  • £189.35 os oes gennych bartner

Mae’n bosibl y byddwch yn dal i allu cael Credyd Pensiwn os yw eich incwm wythnosol yn fwy na’r symiau hyn os, er enghraifft, rydych chi neu’ch partner:

  • yn berson ag anabledd difrifol
  • yn gofalu am berson sydd ag anabledd difrifol
  • â chostau cartref penodol – er enghraifft, taliadau llog morgais

Cofiwch, mae angen i chi fod o leiaf 60 mlwydd oed i wneud cais am Gredyd Pensiwn, ond gall eich partner fod o dan 60 mlwydd oed.

Gallwch weld enghreifftiau, defnyddio'r siartiau neu ddefnyddio'r cyfrifiannell i ddarganfod os ydych yn debygol o gael Credyd Pensiwn ai peidio.

I wneud cais am Gredyd Pensiwn ffoniwch 0800 99 1234

Mae llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am-8.00pm