Credyd Pensiwn

Cael amcangyfrif Credyd Pensiwn

Beth ydyw?

Mae'r gyfrifiannell hon wedi cael ei chynllunio i'ch helpu i amcangyfrif faint o Gredyd Pensiwn efallai y gellwch fod â hawl iddo. Nid yw'n gais am Gredyd Pensiwn.

Ni fydd y gyfrifiannell yn cynnwys amgylchiadau pawb, os ydych yn teimlo nad yw'n cynnwys eich rhai chi cysylltwch â llinell gais Credyd Pensiwn ar Ffôn di- dâl 0800 99 1234.

Os ydych yn ei defnyddio i rhywun arall, gwnewch yn siwr fod yr holl wybodaeth rydych yn ei roi yn seiliedig ar eu hamgylchiadau hwy.

Nid yw'r wybodaeth rydych yn ei roi yn cael ei gadw felly nid oes rhaid i chi boeni am faterion preifatrwydd. Ni fydd defnydd o'r gyfrifiannell hon yn effeithio ar unrhyw gais rydych yn penderfynu ei wneud.

Os ydych yn penderfynu gwneud cais am Gredyd Pensiwn, gellwch:

  • Ffonio llinell Credyd Pensiwn ar Ffôn di- dâl 0800 99 1234. Os oes gennych broblemau lleferydd neu glyw, y rhif ffôn testun yw 0800 169 0133. Bydd Asiant yn eich helpu i gwblhau y ffurflen dros y ffôn ac yna yn anfon y ffurflen atoch i chi ei harwyddo a'i dychwelyd. Mae llinellau ar agor o 8.00am i 8.00pm Dydd Llun i Ddydd Gwener a 9.00am i 1.00pm ar Ddydd Sadwrn.

neu gellwch:

Sut wyf yn ei defnyddio?

Mae'r gyfrifiannell yn hawdd i'w defnyddio ac ni ddylai gymryd mwy nag ychydig o funudau i roi amcangyfrif i chi. Yn syml, dilynwch y cyfarwyddiadau a phan rydych wedi cwblhau sgrin, gwthiwch fotwm “Cliciwch yma i fynd i'r dudalen nesaf.” Os ydych yn gwneud camgymeriad, gellwch ddefnyddio'r botwm “Back” ar eich toolbar.

Rhybudd: Mae'r amcangyfrif rydych yn mynd i'w dderbyn yn seiliedig ar y wybodaeth rydych yn ei ddarparu ynglyn â'ch amgylchiadau. Mae'n rhaid i chi gofio os yw eich amgylchiadau yn newid, eich mewnbwn yn anghywir neu gwybodaeth yn anghyflawn, neu unrhyw newid i gyfradd budd-dal a rheolau, y gall yr amcangyfrif fod yn anghywir.

I wneud cais am Gredyd Pensiwn ffoniwch 0800 99 1234

Mae llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am-8.00pm