Enghreifftiau
Dyma ychydig o enghreifftiau i ddangos i chi faint o Gredyd Pensiwn y gallai pobl gydag amgylchiadau gwahanol ei gael.
Enghraifft 1 - Amy
Mae Amy yn 60 oed. Mae’n byw yng nghartref ei mab. Yr unig arian a gaiff yw ei Phensiwn y Wladwriaeth sy’n £98 yr wythnos.
Bydd Credyd Pensiwn yn rhoi £32 yr wythnos yn ychwanegol iddi. O ganlyniad bydd ei chyfanswm incwm wythnosol yn cynyddu i £130.00.
Enghraifft 2 - Balbir a Manju
Mae Balbir a Manju yn 75 oed. Mae eu hincwm wythnosol fel a ganlyn:
| Pensiwn y Wladwriaeth (Balbir) | £95.25 |
| Pensiwn y Wladwriaeth (Manju) | £95.25 |
| Pensiwn personol (Balbir) | £16.00 |
| Cynilion o £8,000 (rydym yn tybio £1 o incwm ar gyfer pob £500 neuran o £500 ar gyfer unrhyw gyniliondros £6,000) | £4.00 |
| Cyfanswm incwm wythnosol | £210.50 |
Bydd Credyd Pensiwn yn rhoi £22.21 yr wythnosol yn ychwanegol iddynt. O ganlyniad bydd eu cyfanswm incwm wythnosol yn cynyddu i £232.71.
Enghraifft 3 - Betty
Mae Betty yn 66. Mae'n sengl ac yn berson ag anabledd difrifol. Mae ei hincwm wythnosol fel a ganlyn:
| Pensiwn y Wladwriaeth | £95.25 |
| Lwfans Gweini (ni chyfrifir hwn fel incwm ar gyfer Credyd Pensiwn) | £70.35 |
| Cynilion o £5,000 (nid ydym yn tybio unrhyw incwm o'r cynilion hyn gan eu bod yn llai na £6,000) | £0 |
| Cyfanswm incwm wythnosol | £165.60 |
Bydd Credyd Pensiwn yn rhoi £87.60 yr wythnos yn ychwanegol iddi. (Mae hyn yn cynnwys swm ychwanegol o £52.85 gan fod gan Betty anabledd difrifol). O ganlyniad, bydd ei chyfanswm incwm wythnosol yn cynyddu i £253.20.
I wneud cais am Gredyd Pensiwn ffoniwch 0800 99 1234
Mae llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am-8.00pm


