Siartiau canllaw
Mae’r canllawiau canlynol yn dangos os ydych yn debygol o gael Credyd Pensiwn.
I ddefnyddio’r siartiau, rydych angen:
- gweithio allan eich incwm wythnosol ar ôl treth
- adio eich cynilion a buddsoddiadau
- cael hyd i’r siart gywir ar gyfer eich oedran
- cael hyd i’r siart gywir ar gyfer eich statws sengl neu i un o
gwpl - cael hyd i’ch incwm ar hyd y gwaelod
- cael hyd i’ch cyfanswm cynilion a budd-soddiadau lawr yr ochr
- cael hyd i ble mae’r ddwy linell yn ymuno â’r ffigyrau hyn yn cyfarfod ar y siart.
Os ydynt yn cyfarfod y tu mewn i’r rhan cysgodol, efallai cewch Gredyd Pensiwn, ac os ydynt yn cyfarfod y tu allan i’r rhan cysgodol, rydych yn llai tebygol o gael Credyd Pensiwn.
Hyd yn oed os yw’r siart yn dweud eich bod yn llai tebygol o gael Credyd Pensiwn, mae o werth o hyd cysylltu â ni i gael gwybod p’un ai i wneud cais.
Mae’r canllawiau ar gyfer arweiniad cyffredinol yn unig. Ni fyddant yn cynnwys amgylchiadau pawb, er enghraifft bydd yr amgylchiadau’n wahanol i bobl sy’n ddifrifol anabl neu sydd ganddynt gyfrifoldebau gofal. Os nad ydych yn sicr dylech gysylltu â ni ar rhadffon 0800 99 1234
- Ewch i’r siart canllaw ar gyfer pobl sengl 60 i 64 oed
- Ewch i’r siart canllaw ar gyfer cyplau 60 i 64 oed
- Ewch i’r siart canllaw ar gyfer pobl sengl 65 oed a throsodd
- Ewch i’r siart canllaw ar gyfer cyplau 65 oed a thros
Dyma esiampl i ddangos sut mae’r siart yn gweithio
Mae’r esiampl yn cymryd yn ganiataol eich bod yn berson sengl rhwng 60 a 64 oed gyda;
- Pensiwn y Wladwriaeth a phensiwn preifat yn adio i fyny i £110 yr wythnos; a
- chynilion o £10,000
Gan ddefnyddio’r siart cyntaf isod, byddwch angen:
- edrych am £110 ar hyd y gwaelod
- edrych am £10,000 i lawr yr ochr;
- a chael hyd i le mae’r ddwy linell yn ymuno â’r ffigyrau hyn
- yn cyfarfod ar y siart.
Mae’r llinellau’n cyfarfod y tu mewn i’r rhan cysgodol, felly byddwch yn ôl pob tebyg yn cael Credyd Pensiwn.
Siart ar gyfer pobl sengl 60 i 64 oed

Darllenwch ddisgrifiad testun o’r siart ar gyfer pobl sengl 60 i 64
Siart ar gyfer cyplau 60 i 64 oed

Darllenwch ddisgrifiad testun o’r siart ar gyfer cyplau 60 i 64 oed
Siart ar gyfer pobl sengl 65 oed a throsodd

Darllenwch ddisgrifiad testun o’r siart ar gyfer pobl sengl 65 oed a throsodd
Siart ar gyfer cyplau 65 oed a throsodd

Darllenwch ddisgrifiad testun o’r siart ar gyfer cyplau 65 oed a throsodd
I wneud cais am Gredyd Pensiwn ffoniwch 0800 99 1234
Mae llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am-8.00pm


