Credyd Pensiwn

Ateb cwestiynau eraill

Sut y byddaf yn gallu gwneud cais?

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn ac yn gymwys, gallech gael taliad wedi’i ôl-ddyddio (am hyd at 12 mis o’r dyddiad roeddech yn gymwys gyntaf i’r dyddiad y gwnaethoch gais gyntaf).

I wneud cais am Gredyd Pensiwn gellwch ein ffonio ar 0800 99 1234. Mae'r llinell ar agor o 8.00am i 8.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 9.00am i 1.00pm ar ddydd Sadwrn. Bydd un o'n staff yn llenwi ffurflen gais i chi dros y ffôn neu gallant eich ffonio'n ôl ar adeg fwy cyfleus i lenwi ffurflen gais. Byddant wedyn yn postio'r ffurflen wedi'i llenwi i chi er mwyn i chi allu ei gwirio a'i llofnodi.

Os oes gennych nam ar eich clyw neu ar eich lleferydd, y rhif ffôn testun yw 0800 169 0133.

Bydd angen y manylion canlynol arnoch pan fyddwch yn ffonio:

  • Eich rhif Yswiriant Gwladol (YG)
  • Gallwch gael hwn o'ch llyfr pensiwn, slipiau cyflog, papurau treth neu lythyrau o'r swyddfa nawdd cymdeithasol
  • Gwybodaeth am unrhyw arian sydd gennych yn dod i mewn

Gwybodaeth am unrhyw gynilion a buddsoddiadau os oes gennych rai.

Dim ond swm bach y mae gennyf hawl iddo. Pam y dylwn i drafferthu gwneud cais?

Hyd yn oed os mai dim ond swm bach a gewch, efallai y bydd yn golygu y gallwch gael help gyda phethau eraill fel Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor.

O pryd gallaf hawlio?

Gallwch hawlio hyd at bedwar mis cyn y dyddiad rydych yn dymuno cael Credyd Pensiwn ohono. Gallwch hefyd hawlio hyd at 3 mis wedi'r dyddiad rydych yn dymuno ei gael. Er enghraifft, os yw eich penblwydd yn 60 oed ar yr 10 Rhagfyr 2008, ac rydych yn dymuno cael Credyd Pensiwn o'r dyddiad hwnnw, gallwch hawlio ar unrhyw adeg rhwng 10 Awst 2008 a'r 9 Mawrth 2009.

Os ydych yn dymuno i Gredyd Pensiwn ddechrau o ddyddiad yn y gorffennol neu yn y dyfodol, mae'n rhaid i chi ddweud wrthym pan fyddwch yn hawlio. Os ydych yn hawlio dros y ffôn, gallwn drafod hyn gyda chi. Os byddwch yn gofyn am ffurflen hawlio, mae rhagor o wybodaeth yn y llyfryn y byddwn yn ei anfon atoch fydd o gymorth i chi.

Pe baech yn dymuno cael amcangyfrif o'r swm o Gredyd Pensiwn y gallech ei gael, gallwch ddefnyddio'r gyfrifiannell Credyd Pensiwn.

Os nad Saesneg yw fy iaith gyntaf, sut y byddaf yn gallu gwneud cais?

Os ydych am wneud cais am Gredyd Pensiwn ac nad Saesneg yw’ch iaith gyntaf, gallwch ein ffonio am ddim ar 0800 99 1234 a gofyn am gyfieithydd. Pan fyddwch yn ffonio dylech ddweud yn Saesneg, neu ofyn i ffrind ddweud, eich bod am wneud cais mewn iaith arall. Bydd un o’n staff a chyfieithydd wedyn yn eich ffonio’n ôl i’ch helpu i wneud cais.

I wneud cais am Gredyd Pensiwn ffoniwch 0800 99 1234

Mae llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am-8.00pm