Rhagolwg pensiwn cyfunol

Sut i gymeryd rhan

Cam cyntaf: Y ffurflen gais

Unwaith mae eich cynllun pensiwn wedi penderfynu ymuno a gwasanaeth Rhagolygu Pensiwn Cyfunol (CPF), y cam cyntaf fydd cwblhau ffurflen gais

Os bydd gennych unrhyw ymholiad pellach am y ffurflen gais yna cysylltwch a Rheolwr Cyfrif Cwsmer

Sylwer: Mae gwasanaeth Rhagolygu Pensiwn Cyfunol yn wirfoddol ac nid yw’r wybodaeth yn eich ffurflen gais yn eich ymrwymo.

Cam dau: Y cytundeb cofrestru

Unwaith byddwn yn derbyn eich ffurflen gais byddwn yn anfon cytundeb cofrestru yn dweud wrthych beth i'w wneud nesaf.

Sylwer: Nid yw y cytundeb hwn yn eich ymrwymo a gallwch newid y dyddiadau ar y ffurflen drwy eu trafod unrhyw adeg gyda’r tîm Rhagolygu Pensiwn Cyfunol.

Cam tri: Y prawf data

Pan rydym wedi cwblhau y cytundeb cofrestru ar gyfer eich adolygiad byddwn yn gofyn i chi anfon sampl ffug bychan o ddata yn y ffurf briodol. Bydd yr ymarferiad prawf hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn gallu ddarllen eich ffeil a throsi’r data.

Bydd ein cynhyrchydd ffeil gais yn eich helpu i greu ffeil ddata yn y ffurf briodol.

Sylwer: Dylai’r data ffug adlewyrchu y ffeil gweithredol (rhif Yswiriant Gwladol, cyfenw, dyddiad geni ayyb) ond ni ddylai gynnwys gwir fanylion staff.

Canfod mwy am ddata prawf yn y Rhagolygon Pensiwn Cyfunol – canllaw technegol

Cam pedwar: Cael caniatâd eich cyflogeion

Mae angen i gyflogwyr roi gwybod i gyflogeion eu bod yn bwriadu cymeryd rhan yn y gwasanaeth Rhagolygu Pensiwn Cyfunol (CPF) a rhoi'r cyfle iddynt eithrio i fewn neu allan.

Bydd y tîm Rhagolygu Pensiwn Cyfunol yn darparu geiriad y llythyr caniatâd i fynd allan i gyflogeion. Gall y llythyrau hyn gael eu hanfon allan un ai yn uniongyrchol, gyda datganiadau cyflog neu gyda gohebiaeth swyddogol arall.

Dim ond unwaith bydd rhaid i chi fynd drwy y broses caniatâd i dderbynyddion cyfredol: wedi hynny dim ond aelodau newydd o’r cynllun fydd rhaid mynd drwy’r broses.

Sylwer: Bydd angen i chi gadw cofnod o pwy sydd wedi dewis eithrio allan neu i fewn a sicrhau nad yw manylion y cyflogeion sydd wedi penderfynu peidio cymeryd rhan yn cael eu trosglwyddo ymlaen.

Cam pump: Cyfnewid y data ac anfon Rhagolygon Pensiwn Cyfunol

Y cam nesaf yw anfon manylion personol yr unigolion sydd yn hapus i dderbyn Rhagolwg Pensiwn Cyfunol. Byddwn wedyn yn cyfrifo amcangyfrif o Bensiwn y Wladwriaeth pob unigolyn, yn seiliedig ar eu cofnod cyfraddau taliadau Yswiriant Gwladol (YG) a ffigwr am y dyfodol yn cymryd cyfraddau YG tebyg hyd at oed Ymddeol y Wladwriaeth, ac anfon y wybodaeth hyn yn ôl atoch

Gall cyflogwyr ddewis i'r rhagolygon ddangos symiau wythnosol, pob pedair wythnos, misol, chwarterol neu blynyddol er mwyn dilyn trefn eu datganiadau pensiwn hwy. Yna byddant yn anfon datganiadau fel arfer ond yn cynnwys y wybodaeth Pensiwn y Wladwriaeth a ddarparwyd gan y Rhagolwg Pensiwn Cyfunol, a gall y wybodaeth hyn gael ei gyfuno i fewn i ffurf eu datganiad fel adran ar wahân neu ei gynnwys ar daflen ar wahân. Mewn rhai amgylchiadau gall hefyd gaelei ychwanegu i ddatganiadau arlein.

Bydd ein cyfarwyddiadau cynhyrchydd ffeil ymateb yn eich helpu i drosi eich ffeiliau i Microsoft Excel a bydd ein cyfarwyddiadau 'mail merge' yn eich helpu i gyfuno y data Pensiwn y Wladwriaeth i'r datganiadau.

Gallwch hefyd lawrlwytho enghraifft o Rhagolwg Pensiwn Cyfunol - [PDF ffeil maint 31kb]