Rhagolwg pensiwn cyfunol

Rwyf yn gyflogwr

Mae'r tîm Rhagolygu Pensiwn Cyfunol yn gweithio yn uniongyrchol gyda cyflogwyr i ychwanegu gwybodaeth Pensiwn y Wladwriaeth unigolyn i'w datganiadau pensiwn galwedigaethol / personol.

Yn y rhan hwn byddwch yn canfod:

  • sut i gymeryd rhan mewn cynhyrchu Rhagolwg Pensiwn Cyfunol (CPF)
  • y buddion i chi fel cyflogwr
  • astudiaethau achos a ddarparwyd gan gyflogwyr eraill
  • gwybodaeth i gyflogwyr sydd wedi methu cael gwybodaeth Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer rhai o’u cyflogeion
  • y gefnogaeth parhaol sydd yn cael ei gynnig gan ein tîm

Nodyn diogelwch

I fwyhau diogelwch ar gyfer gwybodaeth cwsmer, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi adolygu ffyrdd ple mae data yn cael ei drosglwyddo. Ar gyfer Rhagolwg Pensiwn Cyfunol, y dulliau derbyniol yw:

  • Cyfnewid Data Electroneg
  • Trosglwyddo Ffeil Ddiogel ar y cyd â PGP meddalwedd desk top pro encryption
  • CD rom ar y cyd â meddalwedd PGP meddalwedd desk top pro encryption

Rydym yn ymchwilio opsiynau trosglwyddo eraill, ond yn y cyfamser bydd yr opsiynau uchod yn berthnasol.