Cwestiynau a ofynir yn aml
- Beth os ydym yn methu cynhyrchu Rhagolwg Pensiwn Cyfunol?
- Beth os fydd gan gyflogeion gwestiynau?
- Pa mor ddiweddar yw’r wybodaeth yn y rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth?
- A yw’r wybodaeth yn y rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn cymeryd chwyddiant i ystyriaeth?
- A oes unrhyw rhagdybiaethau yn cael eu defnyddio i gyfrifo y ffigyrau sydd yn cael eu hamcan?
- A fydd y datganiad yn rhoi gwybod i aelodau pryd ddylsent eithrio yn ol i fewn i Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Incwm (SERPS)?
- A yw’r rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn rhagdybio bydd unigolyn yn talu (neu yn derbyn credyd) cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyfradd llawn hyd at Oed Pensiwn y Wladwriaeth?
- A yw cyflogwr yn gallu cael y data angenrheidiol ar gyfer Rhagolygon Pensiwn Cyfunol gan gyfrifydd allanol sydd yn cadw gwybodaeth am y cyflogres?
- A yw taflen wybodaeth CPF5 ar gael arlein?
- A fydd cyflogwr / darparwr yn gallu cysylltu a sawl fydd yn derbyn Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth wedi iddynt dderbyn eu datganiad i drafod gwneud darpariaeth ar gyfer y dyfodol neu cynyddu eu cyfraniadau?
- A yw Rhagolygon Pensiwn Cyfunol ar gyfer aelodau o'r cynllun yn unig?
- A yw trefn DWP yn cael ei hysbysu os yw aelod o’r cynllun yn derbyn Rhagolwg Pensiwn Cyfunol gan ddarpwyr pensiwn eraill?
- A yw Darparwyr Pensiwn yn gyfrifol os yw gwybodaeth anghywir am Bensiwn y Wladwriaeth yn cael ei gynnwys mewn Rhagolwg Pensiwn Cyfunol?
- A oes angen i ni roi llythyr caniatâd i unrhyw un sydd yn ymuno o’r newydd gan ein bod eisoes yn rhoi gwybodaeth am gyfnewid gwybodaeth yn yr anwythiad?
- Pam fod angen caniatâd?
- Os byddant yn brin yn eu cyfraniadau, a fydd unigolion yn gallu cynyddu eu hawl i Bensiwn y Wladwriaeth?
Beth os ydym yn methu cynhyrchu Rhagolwg Pensiwn Cyfunol?
Mi fydd achosion pryd na fydd rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei ddarparu. Gall hyn fod oherwydd nifer o rhesymau, gan gynnwys pan nad yw’r data rhwng ein cofnodion a rhai y cyflogwr / darparwr yn cyd-fynd (dyddiad geni, rhif Yswiriant Gwladol ayb), neu oherwydd fod yr unigolyn eisoes dros oed Pensiwn y Wladwriaeth. Dyma y rhesymu mwyaf cyffredin am fethu darparu rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ond mae rhai eraill.
Bydd yr holl achosion hyn yn cael eu dychwelyd at y cyflogwr / darparwr gyda chod gwrthod. Am ragor o fanylion ynglyn a chod gwrthod ewch i “CPF 3 Technical Guide” tudalen 26.
Dylai unrhyw unigolyn sydd yn derbyn ymwrthodiad gael eu hannog i gysylltu a Thîm Rhagolygu Pensiwn Ymddeol ar 0845 3000 168 a fydd yn egluro y rheswm am yr ymwrthodiad, cywiro unrhyw wallau yn y wybodaeth a gedwir ( os y briodol) ac yn cynnig Rhagolwg Pensiwn Unigo l. Pryd mae manylion wedi cael eu diweddaru bydd Rhagolwg Pensiwn Cyfunol ar gael ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol.
Am ragor o wybodaeth am geisiadau rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth sydd yn cael eu gwrthod, y gweithdrefniadau i’w dilyn a’r llythyrau i anfon at yr unigolion mewn achosion o’r fath, yna darllenwch ymwrthodiadau ac ymholiadau.
Beth os fydd gan gyflogeion gwestiynau?
Gall cyflogeion sydd yn dymuno rhagor o gymorth gyda'u rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth, neu os am ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth mwy personol, cysylltwch a Chanolfan Pensiwn y Dyfodol (FPC) ar 0845 3000168. Mae'r rhif yma i'w weld ar ran Pensiwn y Wladwriaeth o'r Rhagolwg Pensiwn Cyfunol.
Gall cyflogeion wneud cais am gopi o daflen “Eich datganiad pensiwn” sydd yn ateb nifer o’r cwestiynau mwyaf cyffredin am ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth.
Pa mor ddiweddar yw'r wybodaeth yn y Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth?
Mae hyn yn dibynnu ar pryd mae Cyflogwyr yn dychwelyd manylion Diwedd Blwyddyn i’r system Gofnodi Yswiriant Gwladol (NIRS). Er enghraifft, os yw cais am wybodaeth rhagolwg yn cael ei wneud rhwng mis Ebrill a mis Medi 2006 yna mae’r wybodaeth yn debygol o fod yn seiliedig ar cofnod cyfraniadau 2004/05.
O mis Hydref 2006 mae’n debygol y bydd cyfraniadau cyflogeion yn cael eu credydu yn NIRS ac felly fydd gwybodaeth rhagolwg yn seiliedig ar gofnod cyfraniadau 2005/06.
A yw'r wybodaeth yn y rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn cymeryd chwyddiant i ystyriaeth?
Mae’r holl symiau yn cael eu dangos ar brisiau heddiw a byddant yn mynd i fyny yn unol a Mynegai Prisiau Manwerth (RPI).
A oes unrhyw rhagdybiaethau yn cael eu defnyddio i gyfrifo y ffigyrau sydd yn cael eu hamcan?
Mae’r ffigyrau sydd yn cael eu hamcan yn seiliedig ar gyfraddau heddiw a’r unig rhagdbyiaeth yw fod y cwsmer yn parhau i weithio a talu cyfraniadau YG.
Am ragor o wybodaeth gweler ein canllaw Pensiwn y Wladwriaeth
A fydd y datganiad yn rhoi gwybod i aelodau pryd ddylsent eithrio yn ol i fewn i Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Incwm (SERPS)?
Na. Dylai aelodau geisio cyngor ariannol annibynnol os ydynt yn ansicr o sut i weithredu ar ol derbyn rhagolwg.
A yw'r rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn rhagdybio bydd unigolyn yn talu (neu yn derbyn credyd) cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyfradd llawn hyd at Oed pensiwn y Wladwriaeth?
Mae'r symiau "Pensiwn y Wladwriaeth yn y Dyfodol" yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y byddwch yn talu, cael eich trin fel petaech yn talu neu yn cael eich credydu gyda cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyfradd llawn o ddyddiad y rhagolwg tan i chi gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych yn wraig priod sydd wedi dewis talu Yswiriant Gwladol cyfradd gostyngedig - cyfeirir ato yn aml fel "stamp bychan" - bydd "Pensiwn y Wladwrieth yn y Dyfodol" yn seiliedig ar ragdybiaeth y byddwch yn parhau i dalu cyfraniadau cyfradd gostyngedig.
A yw cyflogwr yn gallu cael y data angenrheidiol ar gyfer Rhagolygon Pensiwn Cyfunol gan gyfrifydd allanol sydd yn cadw gwybodaeth am y gyflogres?
Gall, cyn belled nad oes gan y cyfrifydd unrhyw ran pellach yn y broses Rhagolwg Pensiwn Cyfunol (CPF) e.e cyfrifoldeb y cyflogwr fyddai cadw cofnod o'r cyflogeion sydd yn eithrio allan.
A yw taflen wybodaeth CPF5 ar gael arlein?
A fydd cyflogwr / darparwr yn gallu cysylltu a sawl fydd yn derbyn Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth wedi iddynt dderbyn eu datganiad i drafod gwneud darpariaeth ar gyfer y dyfodol neu cynyddu eu cyfraniadau?
Unwaith mae'r aelod wedi derbyn eu rhagolwg nid ydym yn gweld unrhyw rwystr yn cynnal marchnata neu gyswllt dilynol.
A yw Rhagolygon Pensiwn Cyfunol ar gyfer aelodau o'r cynllun yn unig?
Na. Gallwch anfon Rhagolygon Pensiwn Cyfunol i rai nad yw'n aelodau o'r cynllun cyn belled eich bod yn cadw eu manylion ac yn derbyn eu caniatād. Ond ni fydd manylion yn cael ei ddangos yn erbyn gwaith, cyfranddeiliaid neu datganiad cynllun pensiwn arall.
A yw trefn DWP yn cael ei hysbysu os yw aelod o'r cynllun yn derbyn Rhagolwg Pensiwn Cyfunol gan ddarpwyr pensiwn eraill?
Na. Fodd bynnag, mae caveat ar ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth sy'n dweud wrth bobl sydd yn derbyn mwy nag un Rhagolwg Pensiwn Cyfunol i beidio adio symiau Pensiwn y Wladwriaeth at eu gilydd.
A yw Darparwyr Pensiwn yn gyfrifol os yw gwybodaeth anghywir am Bensiwn y Wladwriaeth yn cael ei gynnwys mewn Rhagolwg Pensiwn Cyfunol?
Fel Darparwr Pensiwn nid ydych yn gyfrifol am unrhyw ddata anghywir yn ymwneud a gwybodaeth Pensiwn y Wladwriaeth. Disgwylir i unrhyw unigolyn sydd yn derbyn gwybodaeth anghywir anfon eu ymholiad at Ganolfan Pensiwn y Dyfodol, a fydd yn ymchwilio i gofnod cyfraniadau a gohebu yn uniongyrchol gyda'r unigolyn. Nid yw'r DWP yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth anghywir a gyhoeddir yn y wybodaeth Pensiwn Preifat.
Cymerwch olwg ar y caveat yn y Datganiad Rhagolwg draft sydd ynghlwm a’r Cytundeb Cofrestru.
A oes angen i ni roi llythyr caniatād i unrhyw un sydd yn ymuno o'r newydd gan ein bod eisoes yn rhoi gwybodaeth am gyfnewid gwybodaeth yn yr anwythiad?
Oes. Mae aelodau newydd angen cyfnod o 30 diwrnod i eithrio i fewn ac mae yr holl lythyrau caniatād yn cynnwys yr holl ofynion cyfreithiol. Fodd bynnag, mae'n bosibl i chi newid y wybodaeth a roddir yn y pecyn anwytho er mwyn cynnwys hyn.
Cysylltwch a thim Rhagolygu Pensiwn Cyfunol am ragor
o wybodaeth
Pam fod angen caniatād?
O dan Social Security (Disclosure of Information) Regulations 2000, dylai holl aelodau'r cynllun gael y cyfle i ddatgan nad ydynt yn dymuno i'w gwybodaeth Pensiwn y Wladwriaeth gael ei basio i ddarparwy ar gyfer Rhagolwg Pensiwn Cyfunol.
Os byddant yn brin yn eu cyfraniadau, a fydd unigolion yn gallu cynyddu eu hawl i Bensiwn y Wladwriaeth?
Mae hyn yn ddibynol ar y blynyddoedd sydd yn golledig ac os yw yn 6 blynedd neu ragor. Dylai'r unigolyn gael ei gynghori i gysylltu a Chanolfan Pensiwn y Wladwriaeth.


