Cyflwyniad
Mae Rhagolygu Pensiwn Cyfunol (CPF) yn gynllun sydd ar gael i gyflogwyr a darparwyr pensiwn a gafodd ei lansio gan y Llywodraeeth yn mis Hydref 2001. Mae’n galluogi unigolyn i gael gwell dealltwriaeth o’u hincwm tebygol yn ymddeoliad drwy gyfuno manylion eu pensiwn personol neu galwedigaethol a’u Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae’r ymgyrch yn golygu bod y cyflogwyr a darparwyr pensiwn yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Pensiwn i ddarparu darnau pwysig o wybodaeth ariannol. Dylai unigolyn sydd wedi derbyn rhagolwg pensiwn cyfunol ac yn dymuno arweiniad ar y wybodaeth maent wedi ei dderbyn fynd i’r rhan derbynydd
Gall Rhagolygon Pensiwn Cyfunol fod o fudd i gyflogeion drwy eu annog i adolygu eu trefniadau pensiwn yn flynyddol ac i ystyried os yw eu darpariaeth pensiwn cyfredol yn mynd i gwrdd a’u gofynion pan fyddent yn ymddeol.
Mae gwybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth yn cael ei ddarparu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), ynghyd a chefnogaeth dechnegol, taflenni eglurhad ac ymholiadau dilynol.
I wneud cais am gopi cyfredol o’u DAD/CD ROM, yna ebostiwch ni


