Rhagolwg pensiwn cyfunol

Buddion

Gall Rhagolygon Pensiwn Cyfunol fod o fudd i gynlluniau pensiwn galwedigaethol mewn nifer o ffyrdd:

  • Mae'n ddi-dal - Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn delio gyda holl ymholiadau gan gyflogai ac yn darparu yr holl wybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth ynghyd a'r dogfennau cefnogol.
  • Ymholiadau dilynnol – mae’r holl ymholiadau yn ymwneud a rhagolygon Pensiwn y Wladwriaeth yn cael eu delio gan Ganolfan Pensiwn y Dyfodol yn Newcastle. Mae’r rhif ffôn yn cael ei gynnwys ar bob rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth a golygai y gall ymholiadau gael eu delio gyda hwy yn uniongyrchol heb yr angen i fynd ddrwy’r cwmni neu weinyddydd.
  • Mae’n gwella data pensiynau – mae’r broses rhagolygu yn helpu sicrhau fod y data a gedwir gan weinyddwyr y cynllun yn cyfateb ar hyn sydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), yn nhermau cywirdeb ac ansawdd.
  • Cyflogeion yn fwy ymwybodol – Mae darparu Rhagolygon Pensiwn Cyfunol i gyflogeion yn rhoi gwell syniad o lefel darpariaeth ymddeoliad a gall eu hysgogi i adolygu eu cynlluniau ar gyfer ymddeoliad os bydd angen
  • Mae’r broses yn syml – Mae cyflogwr yn derbyn cefnogaeth llawn pob cam o’r ffordd gan dîm Rhagolygu Pensiwn Cyfunol.
  • Effaith cynyddol – Fel mae’r rhagolygon yn cael eu hanfon yn flynyddol yn ystod bywyd gwaith unigolyn maent mewn gwell sefyllfa i gymeryd unrhyw newidiadau i’w amgylchiadau i ystyriaeth.

Gweld y buddion yn weithredol

Ers ei lansio, mae tîm Rhagolygu Pensiwn Cyfunol wedi comisiynu dwy adroddiad annibynnol sydd yn edrych ar werth y gwasanaeth i'r unigolion a chyflogwyr / darparyddion pensiwn.

Am ragor o wybodaeth am adroddiad Gorffennaf 2004

Am ragor o wybodaeth am adroddiad Tachwedd 2005