Sut i gymeryd rhan
Cam cyntaf: Y ffurflen gais
Unwaith mae eich cynllun pensiwn wedi penderfynu ymuno a gwasanaeth Rhagolygu Pensiwn Cyfunol (CPF), y cam cyntaf fydd cwblhau ffurflen gais
Os bydd gennych unrhyw ymholiad pellach am y ffurflen gais yna cysylltwch a Rheolwr Cyfrif Cwsmer
Sylwer: Mae gwasanaeth Rhagolygu Pensiwn Cyfunol yn wirfoddol ac nid yw’r wybodaeth yn eich ffurflen gais yn eich ymrwymo.
Cam dau: Y cytundeb cofrestru
Unwaith byddwn yn derbyn eich ffurflen gais byddwn yn anfon cytundeb cofrestru yn dweud wrthych beth i'w wneud nesaf.
Sylwer: Nid yw y cytundeb hwn yn eich ymrwymo a gallwch newid y dyddiadau ar y ffurflen drwy eu trafod unrhyw adeg gyda’r tîm Rhagolygu Pensiwn Cyfunol.
Cam tri: Y prawf data
Pan rydym wedi cwblhau y cytundeb cofrestru ar gyfer eich adolygiad byddwn yn gofyn i chi anfon sampl ffug bychan o ddata yn y ffurf briodol. Bydd yr ymarferiad prawf hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn gallu ddarllen eich ffeil a throsi'r data.
Bydd ein cynhyrchydd ffeil gais yn eich helpu i greu ffeil ddata yn y ffurf briodol.
Canfod mwy am ddata prawf yn y Rhagolygon Pensiwn Cyfunol – canllaw technegol
Cam pedwar: Cael caniatâd eich cyflogeion
Mae angen i ddarparwyr roi gwybod i gyflogeion eu bod yn bwriadu cymeryd rhan yn y gwasanaeth Rhagolygu Pensiwn Cyfunol (CPF) a rhoi'r cyfle iddynt eithrio i fewn neu allan
Bydd y tîm Rhagolygu Pensiwn Cyfunol yn darparu geiriad y dogfennau cefnogol ar gyfer eu dosbarth i’ch aelodau ond yn gyntaf mae’n ofynnol i chi benderfynu yn gyntaf os ydych am ddefnyddio y broses caniatad eithrio i fewn neu allan er mwyn gwneud yn siwer ein bod yn anfon y wybodaeth cywir atoch.
Dim ond unwaith bydd rhaid i chi fynd drwy y broses caniatâd i dderbynyddion cyfredol: wedi hynny dim ond aelodau newydd o’r cynllun fydd rhaid mynd drwy’r broses.
Sylwer: Bydd angen i chi gadw cofnod o pwy sydd wedi dewis eithrio allan neu i fewn a sicrhau nad yw manylion y cyflogeion sydd wedi penderfynu peidio cymeryd rhan yn cael eu trosglwyddo ymlaen.
Cam pump: Cyfnewid y data ac anfon Rhagolygon Pensiwn Cyfunol
Y cam nesaf yw anfon manylion personol yr unigolion sydd yn hapus i dderbyn Rhagolwg Pensiwn Cyfunol.
Byddwn yn cyfrifo amcangyfrif Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer pob unigolyn, yn seiliedig ar eu cofnod taliadau Yswiriant Gwladol (YG) a ffigwr amcangyfrifedig sy’n rhagdybio cyfraddau cyfraniadau YG tebyg hyd at oed Pensiwn y Wladwriaeth, a’i anfon yn ol atoch.
Gall darparwyr ddewis i ragolygon arddangos symiau wythnosol, bob pedair wythnos, misol, chwarterol neu blynyddol er mwyn cyd-fynd a’u datganiadau pensiwn eu hunain.
Gall y rhagolygon gael eu cyfuno i fewn i ffurf datganiad y darparwyr pensiwn, fel rhan ar wahân neu ei gynnwys ar dudalen ar wahân. Mewn rhai amgylchiadau caent eu cynnwys i ddatganiadau arlein.
Bydd ein cyfarwyddiadau cynhyrchydd ffeil ymateb yn eich helpu i drosi eich ffeiliau i Microsoft Excel a bydd ein cyfarwyddiadau ‘mail merege’ yn eich helpu i gyfuno y data Pensiwn y Wladwriaeth i’r datganiadau.


