Rhagolwg pensiwn cyfunol

Gwrthodiadau ac ymholiadau

Gwrthodiadau

Mewn rhai achosion byddwn yn methu a cynhyrchu rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer unigolyn. Gelwir rhain yn wrthodiadau. Gall hyn fod oherwydd nifer o rhesymau - yr un mwyaf cyffredin yw oherwydd y gwahaniaeth rhwng y data sy'n cael ei ddarparu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ar hyn a gofnodir ar System Cofnodi Yswiriant Gwladol (NIRS) gan Chyllid a Thollau EM.

Y data sydd ei angen ar gyfer cynhyrchu rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yw:

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Dyddiad geni
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Rhyw

Os oes anghysondeb yn y wybodaeth hyn, fe all achosi gwrthodiad. Golygai hyn na all DWP ddarparu rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer yr unigolyn hynny. Mae'n bwysig annog y pobl hynny i gysylltu a DWP i gywiro eu cofnodion.

Mae rhif ffôn arbennig ar gyfer unrhyw un ble mae eu cais am Ragolwg Pensiwn Cyfunol yn cael ei wrthod. Efallai gallwn gywiro y wybodaeth a chynnig Rhagolwg Pensiwn Unigol.

Gall gyflogwr neu ddarparydd gynnwys y gwrthodiadau hyn yn yr ymarferiad yn y flwyddyn olynnol neu anfon ail ffeil i’t tîm Rhagolygu Pensiwn Cyfunol ar gyfer y rhai hynny sydd wedi medru diweddaru eu gwybodaeth. Gall yr unigolyn ddewis gwneud cais am ragolwg pensiwn unigol unwaith mae’r rheswm am y gwrthodiad yn wybyddus.

Mi fydd achosion pryd na fydd Rhagolwg Pensiwn Cyfunol yn cael ei gynhyrchu; er enghraifft, pryd fydd y data ddim yn cyfateb a data DWP.

Yn yr achosion hyn os yw data DWP yn anghywir dylai’r unigolyn gysylltu a Chanolfan Pensiwn y Dyfodol DWP ar 0845 3000 168 i ddiweddaru eu cofnodion. Efallai bydd posibl darparu Rhagolwg Pensiwn Unigol i’r unigolyn ar yr un pryd.

Os yw eich gwybodaeth chi yn anghywir, dylech gysylltu a’ch adran bersonél i sicrhau fod eich cofnodion yn cael eu diweddaru.

Ymholiadau

Pan fyddwch yn derbyn Rhagolwg Pensiwn Cyfunol, efallai bydd gan unigolyn gwestiwn ynglyn a’r wybodaeth maent wedi ei dderbyn ynglyn a’u Pensiwn y Wladwriaeth. Efallai eu bod yn dymuno gwybodaeth mwy manwl o’u Pensiwn y Wladwriaeth, gan gynnwys hawl i Ail Bensiwn y Wladwriaeth, neu oherwydd eu bod yn ansicr os oes bylchau yn eu cofnodion cyfraniadau. Yn y ddau achos, gall y llinell gymorth penodol yng Nghanolfan Pensiwn y Dyfodol, Newcastle eu cynorthwyo i fod yn ymwybodol o’u sefyllfa mewn perthynas a’u Pensiwn y Wladwriaeth.

Y rhif cyswllt i gwsmeriaid yw: 0845 3000 168

Mae’r llinell gymorth ar agor rhwng 8yb – 8 yh o ddydd Llun tan ddydd Gwener a rhwng 9yb – 1yp ar ddydd Sadwrn.

Sylwer mae’r rhif ffôn hwn ar gyfer unigolion sydd wedi derbyn rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth, ac nid ar gyfer cyflogwyr, darparyddion neu unrhyw drydedd parti arall.

Am ragor o wybodaeth lawrlwythwch daflen “Eglurhad o’ch datganiad pensiwn”