Rhagolwg pensiwn cyfunol

Cefnogaeth

Ar ôl anfon Rhagolygon Pensiwn Cyfunol rydym yn parhau i ddarparu cefnogaeth i'n cwsmeriaid. Gweler isod esiamplau o'r math o gefnogaeth parhaol rydym yn ei ddarparu.

Adborth cwsmer

Tri mis ar ôl anfon y Rhagolygon Pensiwn Cyfunol rydym yn ffonio ein cwsmeriaid i ganfod sut aeth y broses. Mae'n gyfle iddynt roi adborth ar y gwasanaeth maent wedi ei dderbyn ac i gofrestru mwy o gynlluniau os ydynt yn dymuno. Mae nifer o'r gwelliannau i'n cynnyrch o ganlyniad uniongyrchol i adborth gan ein cwsmeriaid.

Ceisiadau blynyddol

Mae gennym drefn mewn lle ar gyfer cwsmeriaid sydd yn anfon eu ffeiliau atom yn flynyddol, sy'n ein atgoffa i gysylltu a hwy chwech wythnos cyn eu cais nesaf am Ragolwg Pensiwn Cyfunol. Pryd hynny rydym yn sicrhau bod ganddynt yr holl gynnyrch cefnogol ac unrhyw rai newydd yn barod ar gyfer y cyfnewid data nesaf.