Rhagolwg pensiwn cyfunol

Buddion

Gall Rhagolygon Pensiwn CyfunolCyfunol fod o fudd i gynllun pensiwn galwedigaethol mewn nifer o wahanol ffyrdd:

  • Mae'n ddi-dal - Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn delio gyda holl ymholiadau gan gyflogai ac yn darparu yr holl wybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth ynghyd a'r dogfennau cefnogol.
  • Ymholiadau dilynnol – mae’r holl ymholiadau yn ymwneud a rhagolygon Pensiwn y Wladwriaeth yn cael eu delio gan Ganolfan Pensiwn y Dyfodol yn Newcastle. Mae’r rhif ffôn yn cael ei gynnwys ar bob rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth a golygai y gall ymholiadau gael eu delio gyda hwy yn uniongyrchol heb yr angen i fynd ddrwy’r cwmni neu weinyddydd.
  • Mae’n gwella data pensiynau – mae’r broses rhagolygu yn helpu sicrhau fod y data a gedwir gan weinyddwyr y cynllun yn cyfateb ar hyn sydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Mae’r broses yn syml – Mae cyflogwr yn derbyn cefnogaeth llawn pob cam o’r ffordd gan dîm Rhagolygu Pensiwn Cyfunol.
  • Effaith cynyddol – Fel mae’r rhagolygon yn cael eu hanfon yn flynyddol yn ystod bywyd gwaith unigolyn maent mewn gwell sefyllfa i gymeryd unrhyw newidiadau i’w amgylchiadau i ystyriaeth.
  • Cynyddu cyfraniadau – gall darparu Rhagolygon Pensiwn Cyfunol arwain i unigolion adolygu eu cynlluniau ar gyfer ymddeoliad a chynyddu eu cyfraniadau.
  • Cynyddu cyfraniadau – gall darparu Rhagolygon Pensiwn Cyfunol arwain i unigolion adolygu eu cynlluniau ar gyfer ymddeoliad a chynyddu eu cyfraniadau.
  • Potensial i’r cynllun gynyddu – gall anfon ddatganiadau Rhagolwg Pensiwn Cyfunol i gyflogeion sydd ddim yn aelod o’ch cynllun galwedigaethol sydd ar hyn o bryd ond yn derbyn rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth, annog hwynt i adolygu eu darpariaeth pensiwn ac ymuno a chynllun pensiwn y cwmni.

Gweld y buddion yn weithredol

Ers ei lansio, mae tîm Rhagolygu Pensiwn Cyfunol wedi comisiynu dwy adroddiad annibynnol sydd yn edrych ar werth y gwasanaeth i’r unigolion a chyflogwyr / darparyddion pensiwn.

Am ragor o wybodaeth am adroddiad Gorffennaf 2004

Am ragor o wybodaeth am adroddiad Tachwedd 2005