Rhagolwg pensiwn cyfunol

Sut i gymeryd rhan

Cam cyntaf: Y ffurflen gais

Unwaith rydych wedi penderfynu cynnig gwasanaeth Rhagolygu Pensiwn Cyfunol i'ch clientiaid, y cam cyntaf yw cwblhau ffurflen gais

Os oes gennych unrhyw ymholiad am y ffurflen gais yna cysylltwch a’r Rheolwr Cyfrif Cwsmer

Sylwer: Mae’r gwasanaeth Rhagolygu Pensiwn Cyfunol yn un gwirfoddol ac nid yw’r wybodaeth sy’n gynwysiedig yn y ffurflen gais yn eich ymrwymo.

Cam dau: Tystysgrif Cofrestru / adnewyddu

Cyn y bydd unrhyw ddata yn cael ei gyfnewid, rydym angen cadarnhad bod gennych awdurdod ysgrifenedig eich clientiaid i ddatgelu gwybodaeth i ni at bwrpas rhagolygu pensiwn. Er mwyn derbyn sicrwydd, mae tystysgrif cofrestru oddi fewn y ffurflen gais i chi ei lofnodi a’i anfon yn ôl atom. Pob blwyddyn byddwn yn gofyn i chi adnewyddu y dystysgrif hon ar mwyn sicrhau bod ein cofnodion mewn perthynas a’n rhestr clientiaid yn cael ei ddiweddaru. Mae hefyd yn lleihau y posibilrwydd o gyfnewid data ar gyfer client nad ydych bellach yn ei gynrychioli.

Cam tri: Y cytundeb cofrestru

Unwaith byddwn yn derbyn eich ffurflen gais byddwn yn anfon cytundeb cofrestru yn dweud wrthych beth i wneud nesaf.

Sylwer: Nid yw y cytundeb hwn yn eich ymrwymo ac mi allwch newid y dyddiadau ar y ffurflen drwy eu trafod unrhyw adeg gyda tim Rhagolygu Pensiwn Cyfunol.

Cam pedwar: Y prawf data

Pan rydym wedi cwblhau y cytundeb cofrestru ar gyfer eich adolygiad byddwn yn gofyn i chi anfon sampl bychan o ddata ffug yn y ffurf priodol. Bydd yr ymarferiad prawf hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn gallu ddarllen eich ffeil a trosi'r data.

Bydd ein cynhyrchydd ffeil gais yn eich helpu i greu ffeil ddata yn y ffurf briodol.

Sylwer: Dylai’r data ffug adlewyrchu y ffeil gweithredol (rhif Yswiriant Gwladol, cyfenw, dyddiad geni ayyb) ond ni ddylai gynnwys gwir fanylion staff.

Canfod mwy am ddata prawf yn y Rhagolygon Pensiwn Cyfunol – canllaw technegol

Cam pump: Cael caniatād eich aelodau

Mae angen i chi roi gwybod i gyflogeion eich cleientiaid eich bod yn bwriadu cymeryd rhan yn y gwasanaeth Rhagolygu Pensiwn Cyfunol (CPF) a rhoi cyfle iddynt eithrio i fewn neu allan. Bydd y tīm Rhagolygu Pensiwn Cyfunol yn darparu geiriad y llythyr caniatād i fynd allan i gyflogeion a bydd eich client yn gallu anfon y llythyrau caniatād. Efallai bod hwn yn rywbeth y byddwch yn dymuno trafod gyda hwy.

Dim ond unwaith bydd rhaid i chi fynd drwy y broses caniatâd i dderbynyddion cyfredol: wedi hynny dim ond aelodau newydd o’r cynllun fydd rhaid mynd drwy’r broses. Os yw eich cleient wedi cymeryd rhan yn y gwasanaeth mewnol nid oes angen cael ail-ganiatad yr aelodau hyn sydd wedi derbyn Rhagolwg Pensiwn Cyfunol. Fodd bynnag, bydd unrhyw gynlluniau newydd y byddwch yn gofrestru angen cael caniatâd ar eu cyfer.

Sylwer: Bydd angen i chi gadw cofnod o pwy sydd wedi dewis eithrio allan neu i fewn.

Cam chwech: Cyfnewid y data ac anfon Rhagolygon Pensiwn Cyfunol

Y cam nesaf yw anfon manylion personol yr unigolion sydd yn hapus i dderbyn Rhagolwg Pensiwn Cyfunol. Byddwn wedyn yn cyfrifo amcangyfrif o Bensiwn y Wladwriaeth pob unigolyn, yn seiliedig ar eu cofnod cyfraddau taliadau Yswiriant Gwladol (YGa ffigwr am y dyfodol yn cymryd cyfraddau YG tebyg hyd at oed Ymddeol y Wladwriaeth, ac anfon y wybodaeth hyn yn ōl atoch.

Gallwch ddethol i’r rhagolygon ddangos symiau wythnosol, pob pedair wythnos, misol, chwarterol neu blynyddol er mwyn dilyn trefn eich datganiadau pensiwn. Byddwch wedyn yn anfon datganiadau fel arfer ond yn cynnwys gwybodaeth Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae’r tîm Rhagolygu Pensiwn Cyfunol yn darparu y geiriad a gwybodaeth cefnogol ar gyfer datganiadau Pensiwn y Wladwriaeth a gall y wybodaeth hyn gael ei gyfuno i fewn i ffurf eich datganiad fel rhan ar wahân neu ei gynnwys ar daflen ar wahân. Mewn rhai amgylchiadau gall ei ychwanegu i ddatganiadau arlein.

Bydd ein cyfarwyddiadau cynhyrchydd ffeil ymateb yn eich helpu i drosi eich ffeiliau i Microsoft Excel a bydd ein cyfarwyddiadau ‘mail merge’ yn eich helpu i gyfuno y data Pensiwn y Wladwriaeth i’r datganiadau.

Gallwch hefyd lawrlwytho enghraifft o Rhagolwg Pensiwn Cyfunol – [PDF file maint 31kb]