Rhagolwg pensiwn cyfunol

Buddion

Gall Ragolygon Pensiwn Cyfunol fod o fudd i gynllun pensiwn galwedigaethol mewn nifer o ffyrdd:

  • Cynyddu cyfraniadau - gall darparu Rhagolygon Pensiwn Cyfunol arwain i unigolion adolygu eu cynlluniau ar gyfer ymddeoliad a chynyddu eu cyfraniadau.
  • Potensial am dwf yn y cynllun – gall anfon datganiadau Rhagolwg Pensiwn Cyfunol i gyflogeion nad yw yn aelodau o’ch cynllun galwedigaethol ac ond yn derbyn rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth gael eu hannog i adolygu eu darpariaeth pensiwn ac ymuno a chynllun y cwmni.
  • Cynnydd ym moddhad cyflogai – Gall Rhagolygon Pensiwn Cyfunol roi arwydd cliriach o gyfraniadau eu cyflogwr tuag at eu incwm ymddeoliad.
  • Mae’r broses yn syml – Mae cyflogwr yn derbyn cefnogaeth llawn pob cam o’r ffordd gan dîm Rhagolygu Pensiwn Cyfunol.
  • Effaith cynyddol – fel mae’r rhagolygon yn cael eu hanfon yn flynyddol yn ystod bywyd gwaith unigolyn maent mewn gwell sefyllfa i gymeryd unrhyw newidiadau i’w amgylchiadau i ystyriaeth.

Gweld y buddion yn weithredol

Ers ei lansio, mae tîm Rhagolygu Pensiwn Cyfunol wedi comisiynu dwy adroddiad annibynnol sydd yn edrych ar werth y gwasanaeth i'r unigolion a chyflogwyr / darparyddion pensiwn.

Am ragor o wybodaeth am adroddiad Gorffennaf 2004

Am ragor o wybodaeth am adroddiad Tachwedd 2005