Sut i gymeryd rhan
Cam cyntaf: Y ffurflen gais
Unwaith mae eich cynllun pensiwn wedi penderfynu ymuno a gwasanaeth Rhagolygu Pensiwn Cyfunol (CPF), y cam cyntaf fydd cwblhau ffurflen gais
Os bydd gennych unrhyw ymholiad pellach am y ffurflen gais yna cysylltwch a Rheolwr Cyfrif Cwsmer
Sylwer: Mae gwasanaeth Rhagolygu Pensiwn Cyfunol yn wirfoddol ac nid yw’r wybodaeth yn eich ffurflen gais yn eich ymrwymo.
Cam dau: Y cytundeb cofrestru
Unwaith byddwn yn derbyn eich ffurflen gais byddwn yn edrych ar y wybodaeth rydych wedi ei ddarparu, ac anfon cytundeb cofrestru at eich Rheolwr Pensiwn, yn dweud wrthynt beth fydd yn digwydd nesaf.
Sylwer: Nid yw y cytundeb hwn yn eich ymrwymo ac mi allwch newid y dyddiadau ar y ffurflen drwy eu trafod unrhyw adeg gyda tîm Rhagolygu Pensiwn Cyfunol.
Cam tri: Y prawf data
Ar ōl i'r cyflogwr gytuno ar cytundeb cofrestru bydd angen iddynt anfon sampl ffug bychan o ddata yn y ffurf briodol ar gyfer gwiriadau cysondeb. Bydd yr ymarferiad prawf hyn yn sicrhau bod i cyflogwr yn gallu trosi eu data i'r ffurf cywir ac y gallant ddarllen y ffeil pan mae'n cael ei ddychwelyd iddynt.
Gall ein cynhyrchydd ffeil gais helpu i greu ffeil ddata yn y ffurf briodol.
Canfod mwy am ddata prawf yn y Rhagolygon Pensiwn Cyfunol – canllaw technegol
Cam tri: Cael caniatād eich cyflogeion
Mae angen i gyflogwyr roi gwybod i gyflogeion eu bod yn bwriadu cymeryd rhan yn y gwasanaeth Rhagolygu Pensiwn Cyfunol (CPF) a rhoi'r cyfle iddynt eithrio i fewn neu allan. Bydd y tīm Rhagolygu Pensiwn Cyfunol yn darparu geiriad y llythyr caniatād i fynd allan i gyflogeion. Gall y llythyrau hyn gael eu hanfon allan un ai yn uniongyrchol, gyda datganiadau cyflog neu gyda gohebiaeth swyddogol arall.
Bydd angen i gyflogwyr gadw cofnod o pwy sydd wedi dewis eithrio allan neu i fewn a sicrhau nad yw manylion y cyflogeion sydd wedi penderfynu peidio cymeryd rhan yn cael eu trosglwyddo ymlaen.
Cam pump: Cyfnewid y data ac anfon Rhagolygon Pensiwn Cyfunol
Y cam nesaf yw anfon manylion personol y cyflogeion sydd yn hapus i dderbyn Rhagolwg Pensiwn Cyfunol. Byddwn wedyn yn cyfrifo amcangyfrif o Bensiwn y Wladwriaeth pob unigolyn, yn seiliedig ar eu cofnod cyfraddau taliadau Yswiriant Gwladol (YG) a ffigwr am y dyfodol yn cymryd cyfraddau YG tebyg hyd at oed Ymddeol y Wladwriaeth, ac anfon y wybodaeth hyn yn ōl i'r cyflogwr.
Gall cyflogwyr ddewis i’r rhagolygon ddangos symiau wythnosol, pob pedair wythnos, misol, chwarterol neu blynyddol er mwyn dilyn trefn eu datganiadau pensiwn hwy.
Yna byddant yn anfon eu datganiadau fel arfer ond yn cynnwys y wybodaeth Pensiwn y Wladwriaeth a ddarparwyd gan y Rhagolwg Pensiwn Cyfunol, a gall y wybodaeth hyn gael ei gyfuno i fewn i ffurf eu datganiad fel adran ar wahân neu ei gynnwys ar daflen ar wahân. Mewn rhai amgylchiadau gall hefyd gaelei ychwanegu i ddatganiadau arlein.
Bydd ein cyfarwyddiadau cynhyrchydd ffeil ymateb yn eich helpu i drosi eich ffeiliau i Microsoft Excel a bydd ein cyfarwyddiadau ‘mail merge’ yn eich helpu i gyfuno y data Pensiwn y Wladwriaeth i’r datganiadau.
Gallwch hefyd lawrlwytho enghraifft o Rhagolwg Pensiwn Cyfunol – [PDF file maint 31kb]


