Cyflwyniad
Diwygio Pensiynau
Yng Ngorffennaf 2007 cyflwynodd Y Ddeddf Pensiynau 2007 a’r Ddeddf Pensiynau (Gogledd Iwerddon ) 2008 newidiadau i’r system Gwasanaeth Pensiwn. Ar y cyfan, bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch yn unig os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010.
Dros y blynyddoedd nesaf bydd mesurau yn y Ddeddf yn gwneud system y wladwriaeth yn fwy hael, tecach i ferched a gofalwyr, ac ar gael yn fwy eang.
Fe wnaeth y Ddeddf hefyd greu Personal Accounts Delivery Authority i gynghori ar gyflwyniad cyfrwng cynilo pensiwn newydd sydd yn syml a chost isel.
Dewch o hyd i fwy am y Ddeddf Pensiynau 2007
Deddf Pensiynau 2008
Yn Nhachwedd 2008 cyflwynodd y Ddeddf Pensiynau fesurau wedi eu hanelu at annog mwy o gynilo preifat. Bydd y rhan fwyaf o’r mesurau yn y Ddeddf yn dod i rym o 2012. Mae’r prif fesurau yn cynnwys dyletswydd ar gyflogwyr i ymrestru holl weithwyr cymwys yn awtomatig i mewn i gynllun pensiwn gweithle o ansawdd da ( cyn belled nad ydynt eisoes mewn cynllun o’r un math) ac yn rhoi lleiafswm cyfraniad.
Mae’r Ddeddf hefyd yn caniatáu tuag at sefydlu cynllun newydd (sydd yn cael ei adnabod yn bresennol fel cyfrifon personol) - cyfrwng cynilo pensiwn newydd sydd yn syml a chost isel, wedi eu hanelu at y rhai nad oes ganddynt fynediad at gynllun pensiwn y gweithle ar hyn o bryd. Yn ychwanegol bydd y Ddeddf yn ehangu cyfrifoldeb y Personal Account Delivery Authority yn rhoi pwerau iddo i’w alluogi i sefydlu’r rhwydwaith ar gyfer y cynllun cyfrif personol.


