Geirfa
Mae’r eirfa hon yn rhoi esboniad o rai o’r termau mwy technegol a ddefnyddir yn y canllaw hwn a’u hystyr.
- Aelod
- Person sydd wedi ymuno â chynllun pensiwn ac sydd â hawl i gael buddiannau o dan y cynllun.
- Ail Bensiwn y Wladwriaeth
- Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth a ddiwygiodd pensiwn Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS) ym mis Ebrill 2002 i roi pensiwn mwy hael i enillwyr isel a chanolig.
- Asedau
- Eiddo neu adnoddau sydd â gwerth ariannol.
- Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA)
- Corff anllywodraethol annibynnol yw'r FSA sy'n rheoleiddio'r diwydiant gwasanaethau ariannol, yn hybu dealltwriaeth o systemau ariannol y DU ac sy'n helpu i ddiogelu defnyddwyr.
- Blwyddyn gymhwyso
- Blwyddyn dreth pan fydd gennych ddigon o enillion y byddwch wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eu cyfer neu y cewch eich trin fel pe baech wedi eu talu neu wedi'ch credydu â hwy. Yn 2006/07 mae angen £4,368 neu fwy o enillion o’r fath os ydych yn gyflogai neu £4,465 neu fwy os ydych yn hunangyflogedig.
- Blwydd-dal
- Wedi'i brynu â phot pensiwn unigol wedi'i gronni mewn trefniant pwrcasu arian i ddarparu pensiwn sydd fel arfer yn daladwy am oes.
- Bondiau
- Yn gyffredinol, mae 'Bond' yn disgyn i ddau brif gategori.
- Buddiolwr
- Fel arfer yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio person sydd â hawl i gael budd-dal o dan gynllun pensiwn.
- Buddsoddiad
- Y broses o ddefnyddio taliadau i gynllun pensiwn i ddiogelu asedau mewn amrywiaeth o gynnyrch fel ecwitïau, stociau llog sefydlog, bondiau ac eiddo.
- Credyd Pensiwn
- Budd-dal sy'n gysylltiedig ag incwm i bobl sy'n 60 oed neu'n hyn sy'n byw ym Mhrydain Fawr yw Credyd Pensiwn sy'n darparu lefel gwarantedig o incwm neu'n cyfrannau ato. Mae hefyd yn golygu y caiff pobl 65 oed a throsodd eu gwobrwyo am rai o'u cynilion a'r incwm sydd ganddynt ar gyfer eu hymddeoliad am y tro cyntaf.
- Cronfa Diogelu Pensiwn
- Bydd yn digolledu aelodau o gynlluniau buddiannau diffiniedig cymwys pan fydd digwyddiad o fethdaliad cymwys sy'n gysylltiedig â'r cyflogwr a phan na fydd digon o asedau yn y cynllun pensiwn i dalu lefelau o iawndal Cronfa Diogelu Pensiwn.
- Cronfeydd olrhain
- Nod cronfeydd olrhain, y cyfeirir atynt weithiau fel cronfeydd mynegai, yw dyblygu neu efelychu perfformiad mynegai cyfranddaliad arbennig neu sector arbennig yn y farchnad. Gan nad oes angen gwaith ymchwil llafurus gan ddadansoddwyr a dewis stoc drud ac ymweliadau â chwmniau, dylai fod yn bosibl i'r taliadau a godir ar fuddsoddwyr fod yn is na'r arfer.
- Cyfarwyddwr rheoli
- Cyfarwyddwr, sydd ar ei ben ei hun neu gyda chyfranogion, sy'n berchen ar 20% neu fwy o gyfranddaliadau cyffredin y cwmni sy'n cyflogi neu'n eu rheoli neu sydd wedi gwneud hynny ar unrhyw adeg ar ôl 16 Mawrth 1987 ac o fewn deg mlynedd o ymddeoliad neu adael gwasanaeth neu wasanaeth pensiynadwy. Mae cyfyngiadau arbennig yn berthnasol i gyfarwyddwyr rheoli sy'n aelodau o gynlluniau cymeradwy.
- Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol Annibynnol (FSAVC)
- Cyfraniadau cyflogai a wneir i ddarparwr pensiwn o dan delerau contract pensiwn galwedigaethol presennol ond sydd hollol ar wahân i gynllun pensiwn galwedigaethol.
- Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol
- Cyfraniadau cyflogeion sy'n daladwy i gynllun galwedigaethol ar
sail cyflog sy'n fwy na'r cyfraniadau cyffredin sy'n ofynnol gan
reolau'r cynllun. Gall hyn fod yn ffordd ddefnyddiol i bobl sicrhau
buddiannau ychwanegol yn eu cynllun galwedigaethol.
Gweler Cyfraniad gwirfoddol ychwanegol annibynnol - Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG)
- Taliadau rheolaidd i'r Wladwriaeth i helpu i gronni hawl i gael budd-daliadau yn cynnwys Lwfans Ceisio Gwaith, Budd-dal Analluogrwydd a Phensiwn y Wladwriaeth.
- Cyllid a Thollau EM
- Un o adrannau'r Llywodraeth a ffurfiwyd ar 18 Ebrill 2005 drwy uno'r adran Tollau Tramor a Chartref a Chyllid y Wlad.
- Cynllun buddiannau diffiniedig
- Cynllun sy'n darparu buddiannau sydd fel arfer yn gysylltiedig â chyflog yr aelod o'r cynllun yn hytrach na faint sy'n cael ei dalu i'r cynllun a pha mor dda y buddsoddir y taliad. Hefyd gweler Cynllun cyflog terfynol
- Cynllun cyfraniad diffiniedig
- Gweler cynllun pwrcasu arian
- Cynllun cyflog terfynol
- Math o gynllun budd-dal diffiniedig lle mae'r pensiwn sy'n daladwy yn seiliedig ar faint o amser mae rhywun wedi bod yn aelod o'r cynllun a'i (h)enillion yn y blynyddoedd olaf sy'n arwain at ymddeoliad.
- Cynllun hybrid
- Gweler Cynllun buddiannau cymysg
- Cynllun buddiannau cymysg
- Math o gynllun hybrid sy'n caniatáu i gyflogwr redeg adran sy'n gysylltiedig â chyflog a phwrcasu arian o dan yr un cynllun.
- Cynllun pensiwn
- Math o gyfrif cynilo a sefydlir i ddarparu incwm mewn ymddeoliad.
- Cynllun pwrcasu arian
- Cynllun pensiwn preifat sy'n darparu budd-daliadau ar sail pwrcasu arian, ac eithrio budd-daliadau marwolaeth. Mae'r swm sy'n daladwy yn seiliedig ar y swm a delir a pha mor dda y buddsoddwyd yr arian hwnnw.
- Cynllun pensiwn personol grwp
- Cytundeb gyda darparwr pensiwn personol sy'n caniatáu i grwp o unigolion drefnu pensiwn personol ar sail grwp. Fe'i sefydlir fel arfer gan gyflogwr ar ran ei gyflogeion ond gellir hefyd eu sefydlu gan grwp o unigolion hunangyflogedig. Prif fantais cytundeb o'r fath yw ei fod yn golygu yn aml bod y cynllun yn codi taliadau gweinyddu is.
- Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion
- Gweler SERPS
- Cynllun pensiwn personol
- Math o gynllun pensiwn preifat, yn cynnwys cynllun pensiwn cyfranddeiliaid, a redir gan fanciau, cwmnïau buddsoddi a chymdeithasau adeiladu.
- Cynllun pensiwn preifat
- Gall hwn fod yn gynllun pensiwn personol, yn cynnwys pensiwn rhanddeiliaid neu gynllun pensiwn galwedigaethol.
- Cynllun pensiwn galwedigaethol
- Math o gynllun pensiwn preifat a redir gan rai cyflogwyr i ddarparu pensiwn i'w cyflogeion. Weithiau cyfeirir ato fel pensiwn gwaith, pensiwn cwmni neu gynllun pensiwn.
- Cynnwys
- Cyfeirir at unrhyw gynllun pensiwn preifat sy'n darparu buddiannau yn ogystal ag Ail Bensiwn y Wladwriaeth (SERPS gynt) ac nad yw'n ei ddisodli fel "cynnwys". Gweler Eithrio
- Cynllun pensiwn cyfranddeiliaid
- Math o gynllun pensiwn personol y mae'n rhaid iddo gyrraedd isafswm safonau a nodir yn y gyfraith. Mae pensiynau rhanddeiliaid yn hyblyg ac yn gludadwy gyda therfyn ar daliadau rheoli blynyddol.
- Cysylltu Unedau
- Math o bensiwn personol lle y defnyddir cyfraniadau i brynu cyfranddaliadau mewn cronfeydd a ddewisir o amrywiaeth eang o fuddsoddiadau. Gall gwerth y buddsoddiadau hyn ddisgyn yn ogystal â chodi ond dros y cyfnod hirach gallant gynnig adenillion uwch. Didynnir costau fel arfer o'r gronfa.
- Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP)
- Mae hwn yn diogelu hawl person i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth os na allant ymgymryd â chyflogaeth reolaidd oherwydd eu bod yn gofalu am blentyn/plant neu berson sâl neu anabl gartref. Gall hefyd helpu person sy'n gymwys i gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, drwy Ail Bensiwn y Wladwriaeth.
- Ecwitïau
- Buddsoddiadau yw ecwitïau mewn cwmni sydd ar restr y gyfnewidfa stoc, lle mae gwerth y buddsoddiad (cyfranddaliadau) yn dibynnu ar berfformiad y cwmni a chyflwr cyffredinol y farchnad stoc. Hefyd, maent fel arfer yn creu incwm drwy dalu buddrannau. Mae ecwitïau sydd mewn cronfeydd pensiwn y DU fel arfer yn perthyn i ddau gategori - y rhai sydd ar restr Cyfnewidfa Stoc Llundain (ecwitïau y DU) a'r rhai sydd ar restr cyfnewidfa stoc dramor (ecwitïau tramor).
- Eithrio
- Mae rhywun yn eithrio os ydynt yn ymuno â chynllun pensiwn sy'n rhoi buddiannau yn lle Ail Bensiwn y Wladwriaeth (SERPS gynt). Gweler Cynnwys
- Gohirio
- Gweler Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth
- Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth
- Term a ddefnyddir i ddisgrifio'r penderfyniad o oedi cyn gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth. Gall pobl sy'n gwneud hyn dderbyn Pensiwn y Wladwriaeth uwch neu gyfandaliad unigol trethadwy. Cewch ragor o wybodaeth am ohirio Pensiwn y Wladwriaeth
- Gostyngiad yn y dreth
- Yn gyffredinol, nid yw cyfraniadau sy'n daladwy i gynllun pensiwn sy'n cael eu cymeradwyo gan adran Cyllid a Thollau EM at ddibenion treth, yn amodol ar Dreth Incwm.
- Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau
- Sefydliad gwirfoddol annibynnol yw OPAS sy'n darparu gwybodaeth am bensiynau galwedigaethol, pensiynau personol a phensiynau cyfranddeiliaid.
- Gwasanaeth cyflogi
- Hyd y cyfnod rydych wedi gweithio i gyflogwr. Ni ddylid cymysgu hyn â Gwasanaeth Pensiynadwy
- Gwasanaeth Pensiynadwy
- Y cyfnod mae rhywun wedi bod yn aelod o gynllun pensiwn. Ni ddylid cymysgu hwn â Gwasanaeth Cyflogi
- Gydag elw
- Math o bensiwn personol lle buddsoddir cyfraniadau mewn ecwitïau a gwarannau llywodraethol. Mae buddsoddiadau yn tyfu wrth i fonysau gael eu hychwanegu. Mae bonysau yn adlewyrchu perfformiad y farchnad stoc a ffactorau eraill, fel costau gweinyddu. Mae'r darparwr yn llyfnhau adenillion fel y cedwir rhai enillion mewn blwyddyn dda i roi hwb i berfformiad mewn blwyddyn wael.
- Hawliau eithrio
- Hawliau mewn cronfa bensiwn sy'n deillio'n bennaf o ad-daliadau cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) a'u hadenillion buddsoddi.
- Oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- Yr oedran cynharaf y gall rhywun dderbyn Pensiwn y Wladwriaeth.
- Oedran Ymddeoliad Arferol
- Yr oedran cynharaf y gellir talu pensiwn i aelod o gynllun pensiwn galwedigaethol heb ostyngiad mewn budd-daliadau.
- Oedran ymddeol
- Dyma'r oedran pryd y byddwch yn dewis gadael gwaith. Gellir ei ddefnyddio hefyd i gyfeirio at yr Oedran Ymddeol Arferol a nodir o dan rai cynlluniau pensiwn preifat, sy'n gysylltiedig â phan fyddwch yn gallu dechrau casglu'ch pensiwn preifat. Nid yw o reidrwydd yr un fath â'ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
- Pensiwn
- Taliadau rheolaidd o gynllun pensiwn a redir gan y Wladwriaeth, cyn gyflogwr neu gwmni ariannol preifat sydd fel arfer yn daladwy am oes.
- Pensiwn Anabledd Rhyfel
- Pensiwn i bobl a anafwyd neu a ddaeth yn anabl yn ystod amser rhyfel, neu o ganlyniad i'w gwasanaeth yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi, yn amodol ar rai amodau.
- Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw/Gwr Gweddw
- Pensiwn i bobl y cafodd marwolaeth eu gwr, gwraig neu bartner sifil sydd wedi goroesi ei achosi, neu a ddigwyddodd yn gynt oherwydd gwasanaeth yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi.
- Pensiwn y Wladwriaeth
- Y pensiwn sy'n daladwy gan y Wladwriaeth sy'n seiliedig ar gofnod cyfraniadau Yswiriant Gwladol unigolyn. Gweler Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth a Phensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
- Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth
- Y rhan o Bensiwn y Wladwriaeth sydd ar sail enillion a gronnir yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth a/neu Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion (SERPS)
- Pensiwn personol / rhanddeiliaid priodol
- Dyma'r term a ddefnyddir i ddisgrifio pensiwn personol neu bensiwn
rhanddeiliaid sy'n cael ei eithrio.
- Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
- Rhan cyfradd safonol Pensiwn y Wladwriaeth sy'n daladwy i bawb
sydd â digon o flynyddoedd cymhwyso drwy fod wedi talu digon neu
wedi cael eu trin fel eu bod wedi talu neu wedi'u credydu â chyfraniadau
Yswiriant Gwladol (YG).
- Cyfryngau buddsoddi yw 'diogelwch llog sefydlog' a gyhoeddir gan gwmnïau cyhoeddus, awdurdodau lleol, y llywodraeth a chwmnïau preifat (bondiau corfforaethol) sydd â chyfradd llog sefydlog sydd fel arfer yn daladwy dros gyfnod penodol. Gelwir diogelwch llog sefydlog Llywodraeth y DU yn 'giltiau' a gellir eu prynu a'u gwerthu ar y farchnad. Mae eu gwerth fel arfer yn codi pan fydd cyfraddau llog yn isel ac yn disgyn pan fydd cyfraddau llog yn uchel. Mae bondiau corfforaethol yn dueddol o dalu cyfradd llog uwch na'r rhai a gyhoeddir gan gyrff cyhoeddus oherwydd bod mwy o berygl o ddiffygdalu.
- Dyfeisiwyd 'diogelwch mynegrif-gysylltiol' ar gyfer cynlluniau pensiwn ac fe'u cyflwynwyd am y tro cyntaf yn y DU ym 1981. Mae'r cysylltiad mynegrif yn cyfeirio at faint o gyfalaf a fuddsoddir ac mae cyfradd llog sefydlog hefyd yn daladwy ar y gwerth cyfalaf presennol ac felly mae wedi'i fynegrifo.
- Pensiynwr
- Person sy'n hawlio neu'n derbyn arian o'i gynllun pensiwn.
- Rhagolwg Pensiwn Cyfunol
- Rhoi amcangyfrif i aelodau cynlluniau pensiwn preifat o faint y byddant yn debygol o'u cael o'u Pensiwn y Wladwriaeth a'u pensiwn preifat presennol.
- Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth
- Mae rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn rhoi manylion Pensiwn y Wladwriaeth sydd eisoes wedi'i gronni a'r swm y mae rhywun yn debygol o'i gael pan fyddant yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
- Rheolwyr cynllun pensiwn galwedigaethol
- Y bobl sy'n gyfrifol am sicrhau bod cynlluniau pensiwn galwedigaethol yn gweithredu'n effeithiol ac o fewn y gyfraith.
- SERPS
- Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion wedi'i ddiwygio gan Ail Bensiwn y Wladwriaeth yn 2002.
- Symleiddio Treth Pensiynau
- O'r 6 Ebrill 2006 (A-Day), bydd rheolau newydd symlach ynglyn â faint gellwch ei gynilo mewn pensiwn a faint o ostyngiad treth y gellwch ei gael ar eich cyfraniadau. Cewch ddarganfod rhagor am Symleiddio Treth Pensiynau ar wefan Cyllid a Thollau EM
- Terfyn Enillion Is (£4,368 for 2006/07)
- Yr isafswm y mae'n rhaid i rywun ei ennill mewn blwyddyn dreth er mwyn cronni hawl i gael budd-daliadau'r Wladwriaeth, yn cynnwys Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Gofalwr a Phensiwn y Wladwriaeth.
- Trothwy enillion
- Swm o enillion sy'n amodol o fewn rheolau treth arbennig sy'n caniatáu i chi fuddsoddi mwy na £3,600 mewn pensiwn personol os byddwch yn bodloni gofynion eraill sy'n gysylltiedig â'ch oedran a'ch enillion.
- Y Gwasanaeth Pensiwn
- Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), sy'n darparu gwybodaeth am bensiynau'r Wladwriaeth i bensiynwyr presennol a phensiynwyr y dyfodol.
- Ymgynghorydd ariannol annibynnol
- Ymgynghorydd ariannol nad yw'n rhwym i ddarparwr pensiwn arbennig.
- Ymddeoliad hwyrach
- Gweler Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth
- Ymddiriedolwyr cynllun pensiwn galwedigaethol
- Y bobl sy'n cynrychioli buddiannau aelodau o gynllun ac mae'n rhaid iddynt weithredu'n annibynnol o'r cyflogwr. Pan fydd un o'r ymddiriedolwyr yn gyflogwr hefyd, rhaid cadw dyletswyddau'r ymddiriedolwr a chyfrifoldebau sy'n codi o'r rôl fel cyflogwr ar wahân.
- Y Rheoleiddwr Pensiynau
- Cyflwynodd Deddf Pensiynau 2004 gorff annibynnol newydd, Y Rheoleiddwr Pensiynau, i helpu i ddiogelu aelodau o gynlluniau pensiwn galwedigaethol drwy ganolbwyntio ar y cynlluniau hynny y mae'n ei ystyried sydd â'r perygl mwyaf o dwyll neu waith rheoli a gweinyddu gwael. Disodlodd Y Rheoleiddwr Pensiynau yr Awdurdod Rheoleiddio Pensiynau Galwedigaethol o fis Ebrill 2005.
Noder
Mae cynnwys Smart Start to Pensions yn seiliedig ar gyfraith
ac arfer presennol. Efallai y bydd newidiadau yn y dyfodol. Byddwn
yn ceisio diweddaru gwybodaeth i ymdrin â'r newidiadau hynny.


