Eithrio
Os ydych yn gweithio i gyflogwr ac yn ennill mwy na £4,524 yn 2007/2008, cewch eich cynnwys yng nghynllun Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn awtomatig. Ond bydd rhai pobl yn dewis gadael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth ac ymuno â phensiwn galwedigaethol wedi'i eithrio os byddant yn credu y bydd yn rhoi incwm uwch, neu fuddiannau eraill iddynt, pan fyddant yn gwneud cais amdano. Neu, gall rhai pobl ddewis gwneud hyn drwy drefnu pensiwn personol gyda darparwr pensiwn annibynnol. Gelwir hyn yn ‘eithrio’.
Hyd yn oed os byddwch yn gwneud hyn, efallai bod hawl gennych o hyd i gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, yn dibynnu ar lefel eich enillion, neu o gyfnod pan oeddech yn gweithio i gyflogwr gwahanol.
Os byddwch yn penderfynu eithrio, byddwch yn ildio eich hawl i gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth gan y cyflogwr hwnnw ac yn cronni hawl yn lle hynny yn eich pensiwn eich hun.
Gallwch wneud hyn mewn dwy ffordd:
1. Gallwch ymuno â chynllun pensiwn galwedigaethol wedi'i eithrio eich cyflogwr. Os byddwch yn gwneud hyn, cewch eich eithrio o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn awtomatig o'r dyddiad y byddwch yn ymuno â'r cynllun. Byddwch chi a'ch cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfradd is ac yna bydd eich ail bensiwn neu ran ohono yn dod o gynllun eich cyflogwr. Ni chaiff eich Pensiwn y Wladwriaeth ei effeithio gan hyn.
2. Neu gallwch ymuno â chynllun pensiwn personol fel pensiwn cyfranddeiliaid. Gallwch ddewis gwneud hyn os nad yw eich cyflogwr yn rhedeg cynllun pensiwn galwedigaethol wedi'i eithrio, neu os ydynt yn rhedeg cynllun o'r fath ond nad ydynt am i chi ymuno ag ef.
Os byddwch yn gadael eich swydd, neu'n penderfynu nad ydych yn fodlon â threfniadau eich pensiwn galwedigaethol neu bensiwn personol presennol, nid oes rhaid i chi barhau i fod wedi eithrio.
I gael gwybod os ydych eisoes wedi eithrio, ffoniwch linell gymorth Cyllid a Thollau EM:
0845 915 0150
8.00 am i 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener
A ddylwn eithrio?
Nid yw eithrio yn iawn i bawb. Edrychwch yn ofalus ar eich amgylchiadau eich hun ac ystyriwch ofyn am gyngor gan y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau neu ymgynghorydd ariannol annibynnol cyn penderfynu gadael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.
Ffoniwch y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau ar 0845 601 2923. Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9.00am i 5.00pm. Codir cyfraddau lleol am alwadau.
I gael gwybod mwy ewch i wefan y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau
I ddod o hyd i Ymgynghorydd Ariannol Annibynnol lleol ewch i wefan IFA Promotion
A ydych yn hunangyflogedig?
Os ydych yn hunangyflogedig, ni fydd Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn berthnasol i chi oherwydd eich bod yn talu cyfradd is o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Felly ni fyddwch yn gallu eithrio.
Er mwyn eich helpu i benderfynu beth sydd orau i chi os ydych yn hunangyflogedig, darllenwch neu argraffwch Pensiynau ar gyfer yr hunangyflogedig – Eich canllaw (PM5W)
I gael gwybod mwy am Bensiynau’r Wladwriaeth, yn cynnwys Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, darllenwch neu argraffwch Pesiynau’r wladwriaeth – Eich canllaw (PM2W)
Darllenwch neu argraffwch Pensiynau’r wladwriaeth ar gyfer gofalwyr a rhieni – Eich canllaw (PM9W) Mae’n egluro beth i’w wneud i sicrhau eich bod yn cael cymaint o Bensiwn y Wladwriaeth ag y gallwch yn y dyfodol os ydych wedi rhoi’r gorau i weithio, neu os nad ydych yn ennill llawer oherwydd eich bod yn gofalu am rywun.
Newidiadau yn y dyfodol i eithrio
Mae Deddf Pensiynau 2007 yn cynnwys mesurau i diddymu'r broses o eithrio ar gyfer cynlluniau pensiwn pwrcasu arian (a elwir hefyd yn gynlluniau cyfraniad diffiniedig) a chynlluniau pensiwn personol a chyfranddeiliaid.


