Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
Mae hawl gennych i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth os ydych wedi talu, yn cael eich trin fel pe baech wedi talu neu wedi cael eich credydu â digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) y DU.
- Os ydych mewn gwaith â thâl a'ch bod yn ennill mwy na £100 yn ystod unrhyw wythnos (ar gyfer 2007/2008) gan gyflogwr unigol, byddwch yn talu cyfraniadau YG drwy eich cyflog.
- Os ydych yn gweithio ac yn ennill rhwng £87 a £100 yr wythnos (ar gyfer 2007/2008) gan gyflogwr unigol, cewch eich trin fel pe baech wedi talu cyfraniadau YG.
- Os nad ydych wedi gallu gwneud cyfraniadau YG (er enghraifft, os nad oeddech yn gallu gweithio oherwydd salwch neu am eich bod wedi bod yn gofalu am berson sâl neu anabl ac yn cael Lwfans Gofalwr), efallai y cewch gredydau YG. Neu, os ydych wedi bod yn gofalu am blant, wedi bod yn ofalwr maeth, neu wedi bod yn gofalu am berson â salwch neu anabledd difrifol (ond nad oeddech yn gallu cael Lwfans Gofalwr), efallai y caiff nifer eich blynyddoedd cymhwyso eu lleihau i helpu i gynyddu eich hawl i gael Pensiwn y Wladwriaeth.
- Os ydych yn hunangyflogedig, mae'n rhaid i chi barhau i dalu cyfraniadau YG oni fyddwch wedi gwneud cais llwyddiannus i beidio â thalu oherwydd enillion isel. Mae'n rhaid i chi wneud y taliadau hyn i Gyllid a Thollau EM eich hun.
- Mewn rhai amgylchiadau efallai y gallwch ddefnyddio cyfraniadau YG eich gwraig, eich g_r neu eich partner sifil i'ch helpu i gael Pensiwn y Wladwriaeth gwell.
O fis Ebrill 2010, gallech gael eich credydu â chyfraniadau ar gyfer cyfnodau pan oeddech yn:
- cael Budd-dal Plant i blentyn o dan 12 oed
- gofalu am rywun sâl neu anabl am o leiaf 20 awr
- gofalwr maeth cymeradwy
Os byddwch yn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny, bydd cyfnodau lle y byddwch wedi cael Diogelwch Chyfrifoldebau Cartref cyn hyn yn cael eu troi yn gredydau.
Ewch i wefan Cyllid a Thollau EM i gael gwybod mwy am gyfraniadau Yswiriant Gwladol
Cofiwch
Ni fyddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth yn awtomatig. Eich dewis chi fydd gwneud cais amdano ai peidio. Fel arfer anfonir gwahoddiad atoch i wneud cais pan fyddwch bedwar mis i ffwrdd o oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych bedwar mis neu lai i ffwrdd o oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ac nad ydych wedi derbyn eich gwahoddiad i wneud cais, llwythwch ffurflen gais i lawr


