Rwy’n cynllunio ymlaen llaw

Cysylltau perthnasol

Nid wyf am ymddeol ar hyn o bryd

Beth os nad wyf am ymddeol eto?

Nid oes rhaid i chi ymddeol pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch barhau i weithio tra byddwch yn hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth, neu gallwch oedi cyn cael eich pensiwn tan yn ddiweddarach a chael mwy o Bensiwn y Wladwriaeth bob wythnos. Neu, os ydych wedi oedi cyn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth am o leiaf 12 mis yn barhaol, gallwch gael un cyfandaliad trethadwy.

Darllenwch neu argraffwch Eich cyflwyniad i Ohirio Pensiwn y Wladwriaeth (SPD2W)

Gall gweithio am gyfnod hwy eich helpu i gronni incwm gwell ar gyfer eich ymddeoliad, yn ogystal â sicrhau eich bod yn well eich byd nawr. Y dyddiau hyn mae pobl yn byw’n hirach, sy’n golygu ei bod yn bwysicach nag erioed i gynllunio ar gyfer eich dyfodol.

Gallech hefyd ystyried ymagwedd fwy hyblyg tuag at eich ymddeoliad. Efallai na fyddwch am ymddeol o’ch gwaith yn gyfan gwbl – efallai y byddwch am ystyried gweithio’n rhan amser, newid swyddi neu leihau eich cyfrifoldebau. Mae angen i chi ystyried pa opsiwn yw’r un gorau i chi ac sy’n eich helpu i roi’r incwm rydych am ei gael cyn ac ar ôl i chi ymddeol.
I gael rhagor o wybodaeth am chwilio am waith, newid swyddi a diweddaru eich sgiliau, darllenwch neu argraffwch Ydych chi dros 50?

Credyd Pensiwn: ydych chi’n 60 oed neu’n h_n?

Mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd hawl gennych i gael Credyd Pensiwn neu fudd-dal arall ar sail incwm pan fyddwch yn ymddeol, yn dibynnu ar incwm eich cartref a chynilion eraill. Mae Credyd Pensiwn yn gwarantu isafswm incwm wythnosol o £119.05 ar gyfer pensiynwyr sengl a £181.70 yr wythnos ar gyfer cyplau yn 2007/2008. Gall y symiau hyn fod yn fwy ar gyfer pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu, anabledd difrifol neu sy’n gyfrifol am gostau tai penodol fel ad-daliadau llog morgais. Os ydych yn 65 oed neu’n h_n, efallai y gallwch gael arian ychwanegol os ydych wedi gwneud darpariaethau cymedrol tuag at eich ymddeoliad.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch neu argraffwch Credyd Pensiwn (PC1LW)