Cwestiynau a ofynnir yn aml
Pryd y byddaf yn ei gael?
Mae hyn yn dibynnu ar reolau'r cynllun galwedigaethol rydych yn perthyn iddo. Fel arfer byddwch yn gallu dechrau hawlio eich pensiwn a'ch buddiannau pan fyddwch yn 60 neu'n 65 oed - gofynnwch i'ch cyflogwr am fanylion os nad ydych yn si_r beth yw'r oedran ymddeol ar gyfer eich cynllun. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi ymddeol o'ch holl waith i gael pensiwn galwedigaethol - ac mewn rhai achosion gallwch hyd yn oed barhau i weithio i’ch cyflogwr.
Faint y byddaf yn ei dalu?
Mae'r rheolau'n amrywio yn dibynnu ar ba gynllun pensiwn rydych yn perthyn iddo, ond fel arfer byddwch yn talu cyfraniad misol sy'n ganran o'ch cyflog. Efallai y gallwch wneud cyfraniadau ychwanegol hefyd os ydych am gynyddu maint eich cronfa bensiwn pan fyddwch yn ymddeol.
Faint y byddaf yn ei gael?
Bydd swm y pensiwn a gewch yn dibynnu'n bennaf ar y math o gynllun rydych yn perthyn iddo ac ers pryd rydych wedi bod yn aelod.
1. Mewn cynllun pensiwn ar sail cyflog, bydd swm y pensiwn a gewch yn bennaf yn seiliedig ar nifer y blynyddoedd y byddwch yn perthyn i'r cynllun a'ch enillion.
2. Mewn cynllun pensiwn pwrcasu arian, bydd swm y pensiwn a gewch yn dibynnu ar faint o arian a dalwyd i mewn i'ch cronfa, a pha mor dda y mae buddsoddiadau'r cynllun wedi perfformio erbyn yr adeg y byddwch yn ymddeol.
Bob blwyddyn efallai y bydd eich cyflogwr yn anfon rhagolwg o faint o bensiwn a gewch pan fyddwch yn ymddeol. Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu a fydd angen i chi gynilo mwy. Os nad ydych yn cael datganiad bob blwyddyn, gallwch ofyn am un. Cael gwybod mwy am y ddau fath gwahanol hyn o gynlluniau pensiwn
Beth os wyf yn gweithio’n rhan amser?
Os ydych yn gweithio’n rhan amser a bod gan eich cyflogwr gynllun pensiwn galwedigaethol, dylech allu ymuno â’r cynllun fel arfer.
A fyddaf yn cael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth o hyd?
Byddwch. Ond byddwch yn colli eich Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth i
gyd neu ran ohono os caiff eich cynllun pensiwn galwedigaethol ei eithrio.
Cael
gwybod mwy am bensiynau wedi’u heithrio
Beth os na fydd fy nghyflogwr yn cynnig aelodaeth o gynllun pensiwn galwedigaethol?
Mae newidiadau diweddar yn y gyfraith yn golygu bod yn rhaid i’r
rhan fwyaf o gwmnïau sydd â mwy na phump o gyflogeion gynnig
aelodaeth o gynllun pensiwn galwedigaethol neu fynediad i gynllun pensiwn
cyfranddeiliaid. Neu, gallwch ddewis trefnu pensiwn personol.
Cael gwybod mwy am
bensiynau personol
Cael gwybod mwy
am bensiynau cyfranddeiliaid
Beth fydd yn digwydd os bydd busnes fy nghyflogwr yn mynd i’r wal neu os bydd y cynllun pensiwn galwedigaethol yn dirwyn i ben (yn cau) am reswm arall?
Os bydd busnes eich cyflogwr yn mynd i’r wal neu os bydd eich cynllun pensiwn yn dirwyn i ben (am ba reswm bynnag), mae siawns y gallech gael llai na’r disgwyl pan fyddwch yn ymddeol.
Mae’r Llywodraeth wedi sefydlu dau sefydliad – y Gronfa Diogelu
Pensiynau a’r Rheoleiddiwr Pensiynau – i wella diogelwch i
aelodauo gynlluniau pensiwn ar sail cyflog. Fodd bynnag, os ydych yn credu
y gallai eich cynllun pensiwn ddirwyn i ben, mae’n bwysig eich bod
yn sicrhau eich bod yn deall eich opsiynau a’ch bod yn cymryd y
camau gweithredu gorau i chi, yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.
Cael gwybod mwy am y Gronfa Diogelu Pensiynau
Cael gwybod mwy am y
Rheoleiddiwr Pensiynau


