Rwy’n cynllunio ymlaen llaw

Deall eich opsiynau pensiwn

Beth yw pensiwn personol?

Mae pensiwn personol yn fath o bensiwn y byddwch yn ei brynu gan ddarparwr pensiwn fel banc, cwmni aswiriant bywyd neu gymdeithas adeiladu. Chi sy’n berchen arno, sy’n golygu y gallwch barhau i gyfrannu ato os byddwch yn symud swyddi.

Mae’n syniad da ystyried pensiwn personol os:

  • na allwch dalu i mewn i gynllun pensiwn galwedigaethol, neu os nad ydych am wneud hynny
  • rydych yn hunangyflogedig
  • nad ydych yn gweithio ond y gallwch fforddio talu ar gyfer pensiwn

Mae pensiynau personol yn gynlluniau pwrcasu arian (a elwir hefyd yn gynlluniau cyfraniadau diffiniedig). Fel gyda chynlluniau pwrcasu arian galwedigaethol, caiff yr arian y byddwch yn ei gynilo ei roi mewn buddsoddiadau ar eich cyfer, fel bondiau neu stociau a chyfranddaliadau. Pan fyddwch yn ymddeol, defnyddir y gronfa hon i brynu blwydd-dal gan gwmni yswiriant a fydd yn rhoi incwm rheolaidd i chi.

Cael gwybod mwy am gynlluniau pwrcasu arian a blwydd-daliadau

Beth yw buddiannau pensiwn personol?

Ceir sawl mantais o gyfrannu i gynllun pensiwn personol.

  • Byddwch yn cael rhyddhad treth ar eich cyfraniadau hyd at derfynau Cyllid a Thollau EM. Yn gyffredinol mae hyn yn golygu (gan ddefnyddio’r cyfraddau treth sylfaenol ar gyfer 2006/2007) ar gyfer pob £78 y byddwch yn ei dalu i mewn i bensiwn persnol, bydd y Llywodraeth yn ychwanegu £22. A pho fwyaf y byddwch yn ei gynilo, y mwyaf o arian a gewch mewn rhyddhad treth
  • Gallwch ddewis cael cyfandaliad di-dreth o hyd at 25% o gyfanswm eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol
  • Efallai y gallwch ddewis y cronfeydd rydych yn buddsoddi ynddynt
  • Gall pobl eraill dalu i mewn i bensiwn personol ar eich rhan. Mae hyn yn golygu y gall partneriaid neu aelodau eraill o’r teulu eich helpu i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad
  • Nid oes angen i chi fod yn gweithio i gynilo mewn cynllun pensiwn personol