Deall eich opsiynau pensiwn
Beth yw Pensiwn y Wladwriaeth?
Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn cynnwys y canlynol:
- Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth; a
- Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.
Efallai y bydd hawl gennych i gael un o'r rhain neu'r ddau ohonynt pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth os byddwch yn bodloni'r amodau cymhwyso
Cofiwch er y bydd Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn fan cychwyn i chi, er mwyn cael y ffordd o fyw rydych am ei chael ar ôl ymddeol, bydd angen i chi feddwl am gynilion eraill hefyd.
Cael gwybod am bensiynau galwedigaethol
Cael gwybod am bensiynau personol
Cael gwybod am bensiynau cyfranddeiliaid
Cael gwybod am ffyrdd eraill o gynilo ar gyfer eich ymddeoliad
Beth yw oedran Pensiwn y Wladwriaeth?
Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yw:
- 65 ar gyfer dynion; a
- 60 ar gyfer merched a aned ar 5 Ebrill 1950 neu cyn hynny
Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched yn codi i 65 rhwng 2010 a 2020. Ar gyfer merched a aned rhwng 6 Ebrill 1950 a 5 Ebrill 1955, bydd pryd y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar eich dyddiad geni.
Llwythwch gopi o Pensiynau ar gyfer merched – Eich canllaw (PM6) i lawr
O 6 Ebrill 2020, oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddynion a merched fydd 65 oed.
Bydd oedran pensiwn y wladwriaeth i ddynion a merched yn codi o 65 oed i 68 oed rhwng 2024 a 2046 gyda phob newid yn cael ei gyflwyno fesul cam dros ddwy flynedd yn olynol ym mhob degawd.
Bydd y cynnydd cyntaf, o 65 oed i 66, yn cael ei gyflwyno fesul cam rhwng mis Ebrill 2024 a mis Ebrill 2026; yr ail, o 66 oed i 67 oed, rhwng mis Ebrill 2034 a mis Ebrill 2036; a’r trydydd, o 67 oed i 68 oed, rhwng mis Ebrill 2044 a mis Ebrill 2046.
Cael gwybod beth fydd yr union ddyddiad pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Ni fydd rhaid i chi ymddeol pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch:
- parhau i weithio tra byddwch yn hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth
- oedi cyn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth tan yn ddiweddarach er mwyn cael pensiwn wythnosol uwch, neu un cyfandaliad trethadwy, yn dibynnu ar ba mor hir y byddwch yn oedi cyn gwneud cais.
Cael gwybod mwy am weithio’n hirach ac oedi cyn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth


