Pan fydd amgylchiadau'n newid
Beth fydd yn digwydd pan fydd fy amgylchiadau yn newid?
Bydd amgylchiadau'r rhan fwyaf o bobl yn newid yn aml cyn iddynt gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth - a gallai hynny olygu eich bod am gynilo mwy, neu leihau eich taliadau am gyfnod.
Efallai y byddwch yn newid eich swydd, yn penderfynu mynd yn hunangyflogedig neu'n methu â gweithio am gyfnodau hirach tra'n edrych ar ôl plant neu'n gofalu am rywun. Efallai y byddwch wedi cael anaf neu'n mynd yn sâl ac yn methu â gweithio. Gall yr holl ffactorau hyn effeithio ar eich gallu i dalu cyfraniadau i mewn i gynllun pensiwn. Gall newidiadau pwysig eraill gynnwys priodi neu ffurfio partneriaeth sifil, cael ysgariad neu ddiweddu partneriaeth sifil, neu fynd i fyw a gweithio dramor, a allai newid swm yr arian y mae gennych hawl i'w gael.
Pan fydd newidiadau pwysig fel hyn yn digwydd, mae'n syniad da i adolygu eich trefniadau pensiwn. Cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn i gael rhagolwg pensiwn wedi'i ddiweddaru, a chysylltwch â'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) i gael gwybod mwy am adolygu eich pensiwn a chynllunio ariannol.
Cewch ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein
Gwelwch os gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein. Bydd hyn yn dweud wrthych faint o Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol a Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol y gallech gael pan rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.



