Rwy’n cynllunio ymlaen llaw

Cysylltau perthnasol

A oes ffyrdd eraill o gynilo?

Nid pensiwn yw'r unig ffordd o gynilo ar gyfer ymddeoliad. Os ydych yn nes‡u at oedran ymddeol neu os oes gennych bensiwn preifat eisoes, efallai y byddwch am ymchwilio i opsiynau cynilo eraill, fel rhoi eich arian mewn Cyfrif Cynilion Unigol di-dreth (ISA).

I gael gwybod mwy am ISAs ewch i wefan Cyllid a Thollau EM

Efallai y gallwch gynllunio i ddefnyddio buddsoddiadau eraill i'ch cynnal eich hun pan fyddwch yn ymddeol, er enghraifft, eiddo, cyfranddaliadau neu werthu eich busnes os ydych yn hunangyflogedig. Holwch beth yw gwerth y rhain a hefyd pa mor hawdd fyddai troi'r buddsoddiadau hyn yn incwm pan fyddwch yn ymddeol.

Hefyd, gallech ddewis aros mewn gwaith yn hirach. Gall hyn eich helpu i adeiladu incwm gwell ar gyfer eich ymddeoliad yn ogystal ‰ sicrhau eich bod yn well eich byd nawr.

I gael gwybod mwy am gynilion, buddsoddiadau a chynllunio ariannol yn gyffredinol ewch i wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol

I gael gwybodaeth a chanllawiau am bensiynau, ewch i wefan y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau