Rwy’n cynllunio ymlaen llaw

Cysylltau perthnasol

Pryd y dylwn ddechrau cynilo?

Fel llawer o bobl eraill, efallai y byddwch yn teimlo bod ymddeoliad yn rhy bell i ffwrdd i feddwl amdano. Efallai eich bod yn meddwl na allwch fforddio cynilo ar gyfer y dyfodol nawr pan fo cymaint o bethau eraill y mae'n rhaid i chi dalu amdanynt bob diwrnod.

Ond y gwir yw gorau po gyntaf y byddwch yn dechrau cynilo ar gyfer eich ymddeoliad, oherwydd bydd gennych fwy o arian i fwynhau eich hun - a thalu'r biliau - pan fyddwch yn ymddeol.

Cofiwch:

  • Peidiwch â phoeni os mai dim ond ychydig o bunnoedd yr wythnos y gallwch ei sbario ar y dechrau. Y peth pwysig i'w gofio yw gorau po gyntaf y byddwch yn dechrau, oherwydd bydd gennych fwy o amser i ennill llog ar eich cynilion - a gallwch bob amser gynyddu eich taliadau yn ddiweddarach
  • Wrth i'ch enillion gynyddu, dylech ystyried cynyddu eich taliadau pensiwn

Faint fydd ei angen arnaf pan fyddaf yn ymddeol?

Bydd Pensiwn y Wladwriaeth yn rhoi incwm sylfaenol i chi pan fyddwch yn ymddeol, ond eich cyfrifoldeb chi yw penderfynu ar y ffordd o fyw rydych am ei chael ar ôl ymddeol, a'r hyn y bydd angen i chi ei wneud i gyflawni hynny.

Mae amgylchiadau pawb yn wahanol felly mae'n anodd gwybod yn union faint fydd ei angen ar bob person. Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, mae'r penderfyniad yn dibynnu ar faint y gallwch fforddio ei gynilo. Gall rhai costau byw fod yn is ar ôl i chi ymddeol - fel trethi, dim costau teithio i'r gwaith a dim cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Efallai y byddwch wedi gorffen talu eich morgais ac efallai na fyddwch yn cynnal teulu mwyach. Ar y llaw arall, bydd gennych fwy o amser hamdden ac efallai y bydd costau eraill, fel costau gwresogi a gofal iechyd, yn cynyddu.