Rwy’n cynllunio ymlaen llaw

Cysylltau perthnasol

Cysylltiadau defnyddiol

Mae’r adran hon yn cynnwys manylion cyswllt amrywiaeth o sefydliadau a allai fod yn ddefnyddiol i chi. Lle y bydd hynny ar gael, rydym wedi cynnwys rhifau ffôn testun ar gyfer darllenwyr sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw, neu sydd ag anawsterau gyda’u lleferydd.

Mae rhai rhifau ffôn yn rhifau ‘Rhadffon’, sy’n golygu bod galwadau fel arfer am ddim o linellau daear. Ar gyfer y rhan fwyaf o rifau ffôn eraill, codir cyfraddau lleol neu genedlaethol am alwadau. Gall taliadau am alwadau fod yn wahanol os byddwch yn ffonio o ffôn symudol neu ffôn cyhoeddus. Dylech holi eich darparwr am yr union daliadau am alwadau.

Y Gwasanaeth Pensiwn

Mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn rhan o’r Adran Gwaith a Phensiynau. Fe’i sefydlwyd i ddarparu gwasanaeth ymroddedig i bensiynwyr heddiw a phensiynwyr y dyfodol. Gallwch siarad â hwy am eich Pensiwn y Wladwriaeth, Credyd Pensiwn a hawliadau eraill. Neu gallwch gael gwybod beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn cyrraedd oedran ymddeol Pensiwn y Wladwriaeth.

Ffôn: 0845 60 60 265
Ffôn testun: 0845 60 60 285
Llinell ffôn Gymraeg: 0845 60 60 275
Llinell ffôn testun Gymraeg: 0845 60 60 295
Mae’r llinellau ar agor o 8am i 8pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

I gael gwybodaeth am ragolygon Pensiwn y Wladwriaeth
I gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â’r Tîm Rhagolwg Pensiwn Ymddeol.
Ffôn: 0845 3000 168
Ffôn testun: 0845 3000 169
Mae’r llinellau ar agor o 8am i 8pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac o 9am i 1pm ar ddydd Sadwrn.
Llwytho ffurflen gais am ragolwg pensiwn (BR19W)

I gael gwybodaeth am ragolygon pensiwn cyfunol
Os ydych yn gyflogwr neu’n ddarparwr pensiwn ac yr hoffech i’ch cyflogeion neu aelodau eich cynllun gael rhagolwg pensiwn cyfunol, cysylltwch â rheolwr cyfrif cwsmeriaid.

Ffôn: 0870 010 1684
Mae’r llinellau ar agor o 9am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Os oes gennych gwestiwn ynghylch rhagolwg pensiwn cyfunol a dderbyniwyd gan eich cyflogwr neu ddarparwr pensiwn, cysylltwch â’r Tîm Rhagolwg Pensiwn Ymddeol.

Er mwyn cysylltu â’r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau
Ffôn: 0845 6002 537
Ffôn testun: 0845 3000 169
Mae’r llinellau ar agor o 8am i 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Pension Tracing Service
The Pension Service
Tyneview Park
Whitley Road
Newcastle upon Tyne
NE98 1BA

Gwneud cais olrhain ar-lein

Cyngor ar Bopeth

Mae’r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn helpu pobl i ddatrys eu problemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill drwy ddarparu cyngor annibynnol a chyfrinachol am ddim. Byddant yn gallu dweud mwy wrthych am y mathau gwahanol o bensiwn sydd ar gael.

I ddod o hyd i’ch swyddfa agosaf ewch i’r wefan Cyngor ar Bopeth

Directgov

Gwefan Directgov yw’r lle i droi i gael yr amrywiaeth ehangaf o wybodaeth a gwasanaethau’r llywodraeth mewn un lle. Yn ogystal ag adrannau’r llywodraeth, mae gan y safle gysylltiadau â sefydliadau eraill a all gynnig cyngor a chymorth - yn cynnwys gwybodaeth am bensiynau, arian a threth.

Ewch i wefan Directgov

Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA)

Yr FSA yw’r gwarchodwr annibynnol a sefydlwyd gan y Llywodraeth i reoleiddio gwasanaethau ariannol a diogelu eich hawliau. Eu nod yw eich helpu i ddeall gwasanaethau ariannol a chael bargen dda.
Ffôn: 0845 606 1234 (llinell gymorth defnyddwyr)
Ffôn testun: 0845 730 0204
I gael gwybod mwy ewch i wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol
Gellir gweld cofrestr yr FSA o gwmnïau gwasanaethau ariannol awdurdodedig ar wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol

Cyllid a Thollau EM

Cyllid a Thollau EM sy’n gyfrifol am gasglu trethi, yn cynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol, yn ogystal â thalu credydau treth a Budd-dal Plant.
Ffôn: 0845 302 1479
Mae’r llinellau ar agor o 8.30am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ewch i wefan Cyllid a Thollau EM

I gael gwybodaeth am Gyfrifon Cynilo Unigol (ISAs)
Ffôn: 0845 604 1701
Mae’r llinellau ar agor o 8.30am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Iau, ac o 8.30am i 4.30pm ar ddydd Gwener.

I gael gwybodaeth am bensiynau wedi’u heithrio
Ffôn: 0845 915 0150 (bydd angen i chi ddyfynnu eich rhif Yswiriant Gwladol)
Mae’r llinellau ar agor o 8am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ymgynghorwyr ariannol annibynnol (IFAs)

Gall y sefydliadau hyn eich helpu i ddod o hyd i ymgynghorwyr yn eich ardal sy’n arbenigo mewn cynllunio ar gyfer ymddeoliad a phensiynau.

Os byddwch yn penderfynu cael cyngor gan ymgynghorydd ariannol annibynnol (IFA), efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi i’r ymgynghorydd am eu gwasanaethau, neu dalu’n anuniongyrchol drwy gomisiwn. Comisiwn yw’r taliad a gaiff ymgynghorwyr ariannol gan ddarparwr y cynnyrch am bob gwerthiant a wnânt.

Cyn i chi gael cyngor ariannol, bydd eich ymgynghorydd yn rhoi dogfen i chi yn egluro eu gwasanaethau a’u taliadau. Dylech bob amser ofyn am fanylion y pensiynau y gall eich ymgynghorydd eu cynnig i chi a faint y bydd yn rhaid i chi ei dalu mewn ffioedd neu gomisiwn.

IFA Promotion
Ffôn: 0800 085 3250
Ffôn testun: 0800 083 0196
I ddod o hyd i IFA lleol ewch i wefan IFA Promotion
I gael gwybod mwy ewch i wefan y Personal Finance Society
I gael gwybod mwy ewch i wefan My Local Adviser

Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau

Mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau yn sefydliad annibynnol dielw sy’n darparu gwybodaeth a chanllawiau am ddim ar yr ystod gyfan o bensiynau yn cwmpasu cynlluniau’r wladwriaeth, cynlluniau cwmni, personol a chyfranddeiliaid. Gallant hefyd eich helpu os oes gennych broblem, cwyn neu anghydfod gyda darparwr eich pensiwn galwedigaethol neu breifat.

Ffôn: 08345 601 2923 Mae’r llinellau ar agor o 9am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Cyfeiriad: The Pensions Advisory Service,
11 Belgrave Road,
London
SW1V 1RB
I gael gwybod mwy ewch i wefan y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau