Rwy’n cynllunio ymlaen llaw

Cysylltau perthnasol

Beth ddylwn ei wneud nesaf?

Cewch ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein

Gwelwch os gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein. Bydd hyn yn dweud wrthych faint o Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol a Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol y gallech gael pan rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

A allaf gael rhagolwg?

Sut i wneud cais am ragolwg

Cewch ragolwg pensiwn arlein yn syth ewasanaeth Logo e-wasanaeth

Mae nifer o bethau eraill y gallwch eu gwneud os ydych am ddechrau cynllunio ar gyfer eich ymddeoliad nawr:

  • Gallwch gael gwybod faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallai fod hawl gennych i’w gael drwy gael rhagolwg

    Bydd y rhagolwg hwn yn rhoi syniad i chi o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei gael gan y Llywodraeth pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth a bydd yn eich helpu i benderfynu p’un a ydych yn cynilo digon ar gyfer eich anghenion ymddeol ar hyn o bryd.
  • Os nad ydych yn perthyn i gynllun pensiwn galwedigaethol, gofynnwch i’ch cyflogwr am wybodaeth am y cynllun maent yn ei gynnig.
  • Os ydych eisoes yn aelod o gynllun pensiwn galwedigaethol, efallai y bydd eich cyflogwr neu ddarparwr eich pensiwn yn anfon datganiad atoch bob blwyddyn sy’n dangos faint o bensiwn y gallwch ddisgwyl ei gael o’r cynllun pan fyddwch yn ymddeol. Os nad ydych wedi cael datganiad, gallwch ofyn i’ch cyflogwr neu ddarparwr eich pensiwn anfon un atoch.
  • Holwch os gall eich cyflogwr roi rhagolwg pensiwn cyfunol i chi – sef rhagolwg pensiwn sy’n dangos manylion eich Pensiwn y Wladwriaeth a’ch pensiwn galwedigaethol gyda’i gilydd. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall beth fydd cyfanswm incwm eich pensiwn unwaith y byddwch wedi ymddeol.

    Cael gwybod mwy am ragolygon pensiwn cyfunol
  • Os ydych eisoes yn aelod o gynllun pensiwn personol, bydd darparwr eich pensiwn yn anfon datganiad atoch bob blwyddyn sy’n cynnwys rhagolwg pensiwn unigol ar gyfer y cynllun rydych yn perthyn iddo. Bydd hyn yn dweud wrthych faint y gallai fod hawl gennych i’w gael pan fyddwch yn ymddeol.
  • Os credwch fod gennych un neu fwy o bensiynau cwmni neu bensiynau personol hen ac nad oes gennych fanylion llawn ar eu cyfer, cysylltwch â’r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau. Efallai eich bod wedi colli cysylltiad â’ch cynllun pensiwn, o bosibl oherwydd newid mewn swyddi , neu efallai bod y cwmni wedi newid ei enw. Beth bynnag fo’r rheswm, os nad ydych mewn cysylltiad â’r cwmni bellach dylech gysylltu â’r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau, a all roi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch helpu i olrhain eich pensiwn.

    Cael gwybod mwy am y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau

    Gwneud cais am gael olrhain pensiwn