Darparwr/ Ymgynghorydd

Cysylltau perthnasol

Cyflwyniad

Pa wybodaeth a fydd yn eich helpu i ddarparu'ch gwasanaeth?

Os ydych yn ddarparwr gwasanaethau ariannol neu eich bod yn cynghori unigolion neu gwmnïau ar bensiynau, mae gennym wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i ddarparu'ch gwasanaeth.

Bydd yr adran hon yn eich tywys i'r cyfeiriad cywir i ddod o hyd i wybodaeth am gynlluniau pensiwn y wladwriaeth a phensiwn preifat, yn cynnwys cynlluniau pensiwn rhanddeiliaid. Os ydych yn ddarparwr gwasanaethau ariannol ac yn dymuno cofrestru cynllun pensiwn fel cynllun pensiwn rhanddeiliaid, gallwch gael gwybodaeth sut i ddechrau.

Gallwch hefyd gael gwybodaeth am ragolygon pensiynau cyfunol a sut y gallwch eu cynnig i'ch cwsmeriaid.

Edrych am ymgynghoriadau?

Cynhelir ymgynghoriadau ar reoliadau drafft a newidiadau i bolisïau drwy'r ganolfan adnoddau ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Newidiadau i bensiynau

Mae’r Ddeddf Pensiynau 2007 yn gwneud newidiadau i system Pensiynau’r Wladwriaeth. Ar y cyfan, dim ond y bobl sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnynt.

Rhagor o wybodaeth am newidiadau i Bensiwn y Wladwriaeth

Symleiddio Treth Pensiynau

O 6 Ebrill 2006 mae cyfundrefn dreth newydd ar gyfer pensiynau o’r enw Symleiddio Treth Pensiynau. Mae’n disodli’r wyth cyfundrefn dreth bresennol gydag un. Cewch ragor o wybodaeth am Symleiddio Treth Pensiynau ar wefan Cyllid y Wlad

Darllenwch y canllaw...

Gallwch ddarllen neu argraffu Pensiynau rhanddeiliaid – canllaw i gofrestru fel darparwr cynllun rhanddeiliaid (English) o ganllawiau a ffurflenni. I gael cyfarwyddiadau llawn ar sut i gynnwys eich cynllun.

Wyddech chi...?

Os ydych yn ddarparwr cynllun pensiwn, gallwch bellach gynnig gwasanaeth newydd i'ch cwsmeriaid - rhagolwg pensiwn cyfunol.

Rhagor o wybodaeth am ragolygon pensiwn cyfunol