Canllawiau i'r rhai sy'n cynllunio ymlaen llaw
Ôl-ddyddio aelodaeth o gynllun pensiwn galwedigaethol
Ôl-ddyddio aelodaeth
o gynllun pensiwn galwedigaethol [BM01W] [ffeil PDF 197kb]
Canllaw ar gyfer pobl gyda chwynion wedi’u cofnodi gyda tribiwnlys
cyflogaeth.
Gyda’r canllaw hwn bydd angen i chi hefyd ddarllen neu argraffu fersiwn arbennig o’r ffurflen gais rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth [BR19 PTW W] – [ffeil PDF 114kb]. Mae’r rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth hwn wedi’i fwriadu ar gyfer gweithwyr rhan amser sydd wedi cael mynediad wedi’i ôl-ddyddio i gynllun pensiwn galwedigaethol eu cyflogwyr gan dribiwnlys cyflogaeth.
Mae ar eich cyfer chi’n unig os ydych yn ystyried ôl-ddyddio aelodaeth o gynllun pensiwn galwedigaethol.
Gallwch ofyn bod copïau o ganllawiau’r Gwasanaeth Pensiwn yn cael eu hanfon atoch drwy’r post. Gallwch archebu copïau ar-lein neu archebu copïau dros y ffôn
Mae ein canllawiau hefyd ar gael yn Braille neu ar gasét sain
Sut i ddarllen neu argraffu canllawiau a ffurflenni
I ddarllen y canllawiau ar-lein, neu i’w hargraffu, mae angen i chi osod Adobe Reader ar eich cyfrifiadur. Os nad oes gennych Adobe Reader eisoes, gallwch ei gael o wefan Adobe
Ffyrdd eraill o ddarllen canllawiau
Os ydych yn defnyddio meddalwedd darllenydd sgrîn neu borwr gwe â sain mae Adobe yn darparu offeryn ar-lein am ddim y gallwch ei ddefnyddio i drosi’r canllawiau i ffurf testun clir (‘plain text’).
I ddefnyddio offeryn ar-lein Adobe:
1. Dewch o hyd i’r cysylltiad ar y wefan hon i’r canllaw rydych
am ei ddarllen, a’i gopïo
2. Ewch
i offeryn ar-lein Adobe
3. Dilynwch
y cyfarwyddiadau ar y sgrîn
Bydd yr offeryn yn dangos y canllaw rydych wedi’i ddewis fel tudalen ar y we (HTML) neu fel testun clir.
Gallwch ddarllen rhagor am Adobe Reader a hygyrchedd ar wefan Adobe


