Canllawiau i'r rhai sy'n cynllunio ymlaen llaw
Pensiwn y Wladwriaeth - Y dewisiadau ar gael i chi
Pensiwn y Wladwriaeth - Y dewisiadau
ar gael i chi [BR33] - [ffeil PDF 191kb]
Mae'r ffurflen hon yn dweud wrthych am y dewisiadau Pensiwn y Wladwriaeth
ar gael i chi pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Pensiwn y Wladwriaeth - y dewisiadau
sydd ar gael i gwsmeriaid sydd yn byw dramor (IPC327CW) - [ffeil PDF 133kb]
Bwriedir i'r ffurflen hon gael ei defnyddio gan gwsmeriaid sydd yn byw
dramor yn unig.
Gallwch ofyn bod copïau o ganllawiau’r Gwasanaeth Pensiwn yn cael eu hanfon atoch drwy’r post. Gallwch archebu copïau ar-lein neu archebu copïau dros y ffôn
Mae ein canllawiau hefyd ar gael yn Braille neu ar gasét sain
Sut i ddarllen neu argraffu canllawiau a ffurflenni
I ddarllen y canllawiau ar-lein, neu i’w hargraffu, mae angen i chi osod Adobe Reader ar eich cyfrifiadur. Os nad oes gennych Adobe Reader eisoes, gallwch ei gael o wefan Adobe
Ffyrdd eraill o ddarllen canllawiau
Os ydych yn defnyddio meddalwedd darllenydd sgrîn neu borwr gwe â sain mae Adobe yn darparu offeryn ar-lein am ddim y gallwch ei ddefnyddio i drosi’r canllawiau i ffurf testun clir (‘plain text’).
I ddefnyddio offeryn ar-lein Adobe:
1. Dewch o hyd i’r cysylltiad ar y wefan hon i’r canllaw rydych
am ei ddarllen, a’i gopïo
2. Ewch
i offeryn ar-lein Adobe
3. Dilynwch
y cyfarwyddiadau ar y sgrîn
Bydd yr offeryn yn dangos y canllaw rydych wedi’i ddewis fel tudalen ar y we (HTML) neu fel testun clir.
Gallwch ddarllen rhagor am Adobe Reader a hygyrchedd ar wefan Adobe


