Canllawiau a ffurflenni

Cynlluniau ar gyfer newidiadau i'r gyfraith

Pensiynau – newidiadau i’r gyfraith

Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am rai o’r newidiadau a wnaed gan y Ddeddf Pensiynau a allai effeithio ar eich Pensiwn y Wladwriaeth. Mae hefyd yn rhoi manylion am rai o’r cyfraddau budd-daliadau sy’n gymwys o fis Ebrill 2009.

Dim ond ym Mhrydain Fawr mae’r Ddeddf mewn grym ond mae’n fwriad y bydd Gogledd Iwerddon, sydd a’i deddfwriaeth ei hun, yn gwneud darpariaeth tebyg i’w chwsmeriaid yn mhen amser.

Ar ôl cyhoeddi’r Papur Gwyn, Diogelwch ar ôl ymddeol: tuag at system bensiynau newydd, cyflwynodd y Llywodraeth y Mesur Pensiynau, sydd bellach yn Ddeddf Pensiynau 2007.Gwnaeth y Ddeddf y newidiadau canlynol i bobl sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny:

Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych am rai newidiadau a allai gael eu gwneud i’r gyfraith a allai effeithio ar eich pensiynau. Mae hefyd yn rhoi manylion o’r rhai o’r cyfraddau budd-dal sydd yn cael eu gweithredu o Ebrill 2007.

  • Dim ond 30 o flynyddoedd cymhwyso fydd eu hangen i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn. (Blwyddyn gymhwyso yw blwyddyn sy’n cyfrif tuag at eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth oherwydd cafodd digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol eu talu, eu trin fel petaent wedi’u talu neu eu credydu i chi yn y flwyddyn honno).
  • O 2010 bydd Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref yn cael ei ddisodli gan system newydd o gredydau i rieni a phobl sy’n gofalu am y rhai ag anableddau difrifol a fydd yn cyfrif tuag at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth ac Ail Bensiwn y Wladwriaeth.
  • Dyfernir credydau Yswiriant Gwladol am gyfnodau lle cawsoch eu cwmpasu gan Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref cyn 2010. (Mae Diogelwch Cyfrifoldeb Cartref yn lleihau nifer y blynyddoedd sydd angen i chi weithio i gael Pensiwn y Wladwriaeth llawn os nad ydych yn ennill cyflog a’ch bod yn gofalu am rywun, er enghraifft perthynas oedrannus neu eich plant). Mae cael credydau ar gyfer y blynyddoedd hyn yn golygu eu bod yn cyfrif tuag at eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Mae credydau Yswiriant Gwladol yn eich helpu i gynnal eich cofnod Yswiriant Gwladol yn ystod cyfnodau lle mae’n rhaid i chi fel arfer dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ond nad ydych yn gweithio dros dro (er enghraifft, os ydych yn ddi-waith ac yn chwilio am waith).
  • Bydd pobl sydd ag ychydig iawn o flynyddoedd cymhwyso yn cael rhywfaint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth o leiaf.

Yn ogystal, bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn codi o 65 i 68 rhwng 2024 a 2046.

Mae’r Ddeddf hefyd yn darparu ar gyfer Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth i barhau i fod yn seiliedig ar nifer y blynyddoedd cymhwyso rydych wedi’u cronni drwy gyfraniadau Yswiriant Gwladol (p’un a ydynt wedi’u talu, wedi’u trin fel petaent wedi’u talu neu eu credydu).

Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Gwirfoddol

Gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol dosbarth 3 gwirfoddol i sicrhau bod gennych y blynyddoedd cymhwyso sydd eu hangen i gael Pensiwn y Wladwriaeth uwch neu Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn. Fodd bynnag, mae nifer y blynyddoedd cymhwyso sydd eu hangen arnoch i fod yn gymwys i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn wedi’i leihau i 30 o flynyddoedd ar gyfer pobl sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny, felly efallai yr hoffech ystyried yn ofalus p’un a ydych am dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol dosbarth 3 gwirfoddol.

Mae’r Ddeddf Pensiynau ar gael ar wefan DWP

Newidiadau i gyfraddau budd-daliadau a therfynau

Isod mae’r budd-daliadau pensiwn a therfynau enillion ar gyfer 2008/09. Hefyd dangosir cyfraddau ar gyfer 2007/08 er mwyn i chi gael gweld sut mae’r newidiadau yn effeithio arnoch.

Pensiwn y Wladawriaeth Sylfaenol (yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol eich hyn) £90.70 £95.25 Pensiwn y Wladwriaeth Sylfaenol (yn seiliedig ar yswiriant eich partner) £54.35 £57.05 Pensiwn ar gyfer pobl 80 oed a throsodd £54.35 £57.05 Lleiafswm Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol £22.68 £23.81 Mwyafswm Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol £151.10 £154.70

Cyfraddau Pensiwn y Wladwriaeth (wythnosol) 2008/09 2009/10
Pensiwn y Wladawriaeth Sylfaenol (yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol eich hyn) £90.70 £95.25
Pensiwn y Wladwriaeth Sylfaenol (yn seiliedig ar yswiriant eich partner) £54.35 £57.05
Pensiwn ar gyfer pobl 80 oed a throsodd £54.35 £57.05
Lleiafswm Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol £22.68 £23.81
Mwyafswm Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol £151.10 £154.70
Credyd Pensiwn (wythnosol) 2008/09 2009/10
Lleiafswm Safonol credyd gwarantiedig – ar gyfer person sengl £124.05 £130.00
Lleiafswm safonol credyd gwariantedig – ar gyfer cwpwl £189.35 £198.45
Mwyafswm credyd cynilo – ar gyfer person sengl £19.71 £20.40
Mwyafswm credyd cynilo- ar gyfer cwpwl £26.13 £27.03
Terfynau enillion 2008/09 2009/10
Terfyn is enillion - wythnosol £90 £95
Terfyn is enillion - blynyddol £4,680 £4,940
Trothwy pennaf - wythnosol £105 £110

(Y trothwy pennaf yw’r pwynt ple mae mae’n rhaid i chi ddechrau talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol - dosbarth 1 os ydych yn gweithio i gyflogwr. Mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau ar unrhyw beth rydych yn ei ennill yn uwch na’r lefel hwn.)

2008/09 2009/10
Terfyn is enillion - blynyddol £13,500 £13,900
Terfyn uwch enillion - blynyddol £40,040 £43,875

(Mae codiad dibynnyddion yn godiad yn eich Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer rhywun sydd yn dibynnu arnoch yn ariannol (fel eich gwraig, eich gwr neu rhywun sydd yn edrych ar ôl eich plant i chi). Os ydych wedi gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2003, efallai gallwch gael codiad ar gyfer eich eich plant cyn belled ag eich bod â hawl i neu yn cael eich trin fel eich bod â hawl i Fudd-dal Plant ar eu cyfer.)

Terfynau enillion ar gyfer codiadau dibynnyddion (wythnosol) 2008/09 2009/10
Ar gyfer cwpwl syddyn byw gyda’igilydd £60.50 £64.30
Ar gyfer cwpwl sydd yn bywar wahan £54.35 £57.05
Lwfans treth personol (blynyddol) 2008/09 2009/10
Pobl o dan 65 £6,035 £6,475
Pobl oedran 65 i 74 £9,030 £9,490
Pobl oedran 75 a throsodd £9,180 £9,640