Canllawiau a ffurflenni
Desg gymorth E-wasanaeth
Mae desg gymorth E-wasanaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gallu rhoi help technegol drwy ddefnyddio gwasanaeth rhagolwg pensiwn arlein, er enghraifft os ydych yn cael problemau mynd at neu forio drwy y gwasanaeth.
Os ydych wedi cael rhagolwg pensiwn eisoes gall staff yn y Tîm Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth eich helpu gyda eich ymholiadau.
Gallwch ffonio desg gymorth e-wasanaeth ar 0845 601 8040
Os ydych yn defnyddio ffôn testun, ffoniwch 0845 601 8039. Os nad oes gennych system ffôn testun, maent ar gael mewn rhai llyfrgelloedd neu swyddfeydd Cyngor ar Bopeth.
Mae’r ddesg gymorth ar agor 8:00pm – 9:00pm Dydd Llun i Dydd Gwener a 8:00am – 4:00pm yn ystod penwythnosau. Mae ar gau ar wyliau cyhoeddus a gwyliau banc.
Os nad Cymraeg neu Saesneg yw eich iaith cyntaf, rydym yn darparu gwasanaeth cyfieithu dros y ffôn ar gais.
I sicrhau ein bod yn rhoi gwasanaeth da i’n cwsmeriaid, rydym angen monitro rhai o’n galwadau. Os ydych yn ein ffonio ac nid ydych eisiau eich galwad gael ei fonitro, dywedwch wrthym ar unwaith.


