Canllawiau a ffurflenni
Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth
Mae rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn dweud wrthych faint o arian rydych yn debygol o’i gael pan rydych yn gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth. Mae’n rhoi gwybodaeth personol sydd yn gallu eich helpu i gynllunio faint o arian efallai rydych ei angen ar gyfer ymddeoliad.
Cewch ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein
Gwelwch os gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein. Bydd hyn yn rhoi amcangyfrif i chi o faint o Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol a Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol y gallech gael pan rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Mynd ymlaen i'r rhagolwg pensiwn ar
unwaith arlein

Os ydych angen help
Os ydych yn cael anawsterau technegol wrth ddefnyddio yr
e-wasanaeth hwn cysylltwch â’r desg gymorth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gynnwys eich rhagolwg cysylltwch â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol
Gwybodath bwysig i’w ystyried pan rydych yn cael eich rhagolwg
Os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth rhwng 6 Ebrill 2008 a 5 Ebrill 2015, efallai y gallech roi hwb i’ch pensiwn drwy dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Gwirfoddol Dosbarth 3 ychwanegol (NICs) Mwy o wybodaeth
Polisi Preifatrwydd
Mae e-wasanaeth rhagolwg Pensiwn yn cael ei warchod gan bolisi preifatrwydd, sydd yn egluro sut rydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth am eich cais rhagolwg. Dylech ddarllen y polisi preifatrwydd cyn gwneud cais am ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth


