Canllawiau a ffurflenni

Canllawiau a ffurflenni

Rhagolygon Pensiwn y Wladwriaeth arlein ­ newidiadau i’r prawf Ymlyniad y Farchnad Lafur

Mae newidiadau a ddaeth i fewn gan y Ddeddf Pensiynau 2007 a’r Ddeddf Pensiynau (Gogledd Iwerddon) 2008 yn golygu fod rhai cwsmeriaid, gyda analluogrwydd tymor hir ac sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010, yn gallu cael eu heffeithio gan rhai newidiadau i’r rheolau Prawf Ymlyniad y Farchnad Lafur.

A ydyw’r newidiadau yn effeitho arnaf i?

Gallai effeithio arnoch os ydych yn:

  • derbyn Budd-dal Analluogrwydd tymor hir neu Lwfans Anabledd Difrifol ac
  • wedi derbyn Budd-dal Analluogrwydd tymor hir neu Lwfans Anabledd Difrifol am unrhyw flwyddyn (neu flynyddoedd) dreth llawn ers 6 Ebrill 2002 ac
  • y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010

Beth yw Ymlyniad y Farchnad Lafur?

Os ydych wedi gweithio a thalu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 am o leiaf ddeg y cant o’ch bywyd gwaith ers 1978 erbyn yr amser rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, rydych wedi pasio’r prawf Ymlyniad y Farchnad Lafur

Rydym yn defnyddio’r prawf pan rydym yn amcangyfrif faint o Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol a gewch.

Weithiau gallwn ddweud wrthych os ydych wedi pasio’r prawf hwn cyn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ­ os yw hyn yn gymwys i chi, byddwn yn dweud wrthych yn eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth.

Sut mae yn newid?

O 6 Ebrill 2010, ni fydd y prawf Ymlyniad y Farchnad Lafur yn cael ei ddefnyddio i bobl sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl y dyddiad hwn. Mae hyn yn golygu os ydych â hawl i Lwfans Anabledd Difrifol neu Fudd-dal Analluogrwydd, ni fydd y prawf Ymlyniad y Farchnad Lafur yn effeithio arnoch.

Sut y gallai hyn effeithio arnaf i?

Os ydych yn gwneud cais am ragolwg arlein ac rydych yn cyfarfod y criteria uchod, efallai y byddwch â hawl i Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol uwch nac a ddangosir ar eich rhagolwg. Mae hyn oherwydd rydym yn dal i ddiweddaru ein systemau cyfrifiaduron i adlwewyrchu’r newid mewn rheol hwn. Ni allwn ddweud, ar y funud, os y bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol yn cael ei effeithio arno.

Yn ôl i dudalen e-gwasanaethau