Cyflwyniad
Mae’r adran hon yn cynnig amrywiaeth eang o ganllawiau gyda rhagor o wybodaeth am bensiynau. Gallwch ddarllen neu argraffu copïau o’r canllawiau hyn isod. Neu, gallwch archebu canllawiau ar-lein neu archebu canllawiau dros y ffôn, a chânt eu hanfon atoch drwy’r post.
Mae’r adran hon hefyd yn cynnwys ffurflenni cais y gallwch eu llenwi i wneud cais am hawliad.
Os na allwch ddod o hyd i’r canllaw neu’r ffurflen rydych yn chwilio amdano, edrychwch ar adran cyhoeddiadau gwefan yr Adran Gwaith a Phensiynau. I gael canllawiau a ffurflenni cyfraniadau Yswiriant Gwladol ewch i wefan Cyllid a Thollau EM.
Mae ein canllawiau hefyd ar gael yn Saesneg ac mewn print Bras, Braille ac ar gasét sain.
Darllen neu argraffu canllawiau a ffurflenni
I ddarllen y canllawiau ar-lein, neu i’w hargraffu, mae angen i
chi osod Adobe Reader ar eich cyfrifiadur.
Os
nad oes gennych Adobe Reader eisoes, gallwch ei gael o wefan Adobe


