Canllawiau a ffurflenni

Canllawiau i'r rhai sy'n cynllunio ymlaen llaw

Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer rhieni a gofalwyr - Eich Canllaw

Nid yw’r canllaw hwn ar gael mwyach gan y Gwasanaeth Pensiwn. Mae gwybodaeth pellach ar Bensiynau y Wladwriaeth i’w gael yn Pensiwn y Wladwriaeth – eich canllaw (PM2W) ar gael ar y wefan hon.

Mae'r nodyn amgaeëdig yn dweud wrthych am rai newidiadau a allai gael eu gwneud i'r gyfraith a allai effeithio ar eich pensiynau. Mae hefyd yn rhoi manylion o'r rhai o'r cyfraddau budd-dal sydd yn cael eu gweithredu o Ebrill 2007.

Gallwch ofyn bod copïau o ganllawiau’r Gwasanaeth Pensiwn yn cael eu hanfon atoch drwy’r post. Gallwch archebu copïau ar-lein neu archebu copïau dros y ffôn

Mae ein canllawiau hefyd ar gael yn Braille neu ar gasét sain

Sut i ddarllen neu argraffu canllawiau a ffurflenni

I ddarllen y canllawiau ar-lein, neu i’w hargraffu, mae angen i chi osod Adobe Reader ar eich cyfrifiadur. Os nad oes gennych Adobe Reader eisoes, gallwch ei gael o wefan Adobe

Ffyrdd eraill o ddarllen canllawiau

Os ydych yn defnyddio meddalwedd darllenydd sgrîn neu borwr gwe â sain mae Adobe yn darparu offeryn ar-lein am ddim y gallwch ei ddefnyddio i drosi’r canllawiau i ffurf testun clir (‘plain text’).

I ddefnyddio offeryn ar-lein Adobe:

1. Dewch o hyd i’r cysylltiad ar y wefan hon i’r canllaw rydych am ei ddarllen, a’i gopïo
2. Ewch i offeryn ar-lein Adobe
3. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn

Bydd yr offeryn yn dangos y canllaw rydych wedi’i ddewis fel tudalen ar y we (HTML) neu fel testun clir.

Gallwch ddarllen rhagor am Adobe Reader a hygyrchedd ar wefan Adobe