Ffurflenni cais
Daliadau Tanwydd Gaeaf
Ffurflen gais ar gyfer preswylwyr y DU ar gyfer gaeafau blaenorol
Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais ar gyfer Taliad Tanwydd Gaeaf y gaeaf hwn (2008/2009)
Bydd y nodiadau amgaeëdig yn eich helpu i gwblhau’r ffurflen yn gywir - [ffeil PDF maint 59kb]
Cofiwch anfon eich tystysgrif geni gyda’r ffurflen gais yma pan fyddwch chi’n ei phostio.
Ffurflen gais ar gyfer gaeafau blaenorol
Defnyddiwch y ffurflen yma i wneud cais am Daliadau Tanwydd Gaeaf ar gyfer gaeafau blaenorol. Gallwch chi wneud ceisiadau am Daliadau Tanwydd Gaeaf wedi’u hôl-ddyddio ar gyfer gaefau 1997/98, 1998/99 a 1999/2000.
Os ydych am wneud cais ar gyfer unrhyw aeafau ar ôl 2000/01, dylech ffonio’r Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd Gaeaf.
Cofiwch anfon eich tystysgrif geni gyda’r ffurflen gais yma pan fyddwch chi’n ei phostio.
Lawrlwythwch y ffurflen yma, ei hargraffu a’i llenwi ac yna’i hanfon i:
Canolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf
Rhadbost Nat15404
Caerdydd
CF91 1WF
Ffurflen gais ar gyfer pobl sy'n byw dramor
Os ydych yn byw y tu allan i’r DU ond o fewn i’r EEA neu’r Swistir, defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am eich Taliadau Tanwydd Gaeaf ar gyfer gaeafau yn y gorffennol.
Os ydych yn gwneud cais ar gyfer gaeafau yn y gorffennol am unrhyw aeafau ers 2000/2001 dylech phonio’r Llinell gymorth Taliadau Tanwydd Gaeaf cyn argraffu a llenwi’r ffurflen gais.
Gallwch ofyn bod copïau o ganllawiau’r Gwasanaeth Pensiwn yn cael eu hanfon atoch drwy’r post. Gallwch archebu copïau ar-lein neu archebu copïau dros y ffôn
Mae ein canllawiau hefyd ar gael yn Braille neu ar gasét sain
Sut i ddarllen neu argraffu canllawiau a ffurflenni
I ddarllen y canllawiau ar-lein, neu i’w hargraffu, mae angen i chi osod Adobe Reader ar eich cyfrifiadur. Os nad oes gennych Adobe Reader eisoes, gallwch ei gael o wefan Adobe
Ffyrdd eraill o ddarllen canllawiau
Os ydych yn defnyddio meddalwedd darllenydd sgrîn neu borwr gwe â sain mae Adobe yn darparu offeryn ar-lein am ddim y gallwch ei ddefnyddio i drosi’r canllawiau i ffurf testun clir (‘plain text’).
I ddefnyddio offeryn ar-lein Adobe:
1. Dewch o hyd i’r cysylltiad ar y wefan hon i’r canllaw rydych
am ei ddarllen, a’i gopïo
2. Ewch
i offeryn ar-lein Adobe
3. Dilynwch
y cyfarwyddiadau ar y sgrîn
Bydd yr offeryn yn dangos y canllaw rydych wedi’i ddewis fel tudalen ar y we (HTML) neu fel testun clir.
Gallwch ddarllen rhagor am Adobe Reader a hygyrchedd ar wefan Adobe


