Wedi ymddeol

Cysylltau perthnasol

Taliad Tywydd Oer

Os ydych yn cael Credyd Pensiwn neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, gallai hwn fod i chi. Mae'n wahanol i Daliad Tanwydd Gaeaf, y gallech hefyd fod yn gymwys i'w gael. Ni fyddwch yn talu treth ar unrhyw Daliadau Tywydd Oer y gallech eu cael.

Mae Taliad Tywydd Oer yn eich helpu tuag at eich costau gwresogi ychwanegol pan fydd cyfnod o dywydd oer yn eich ardal. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn talu hwn i chi yn awtomatig pan fydd y tymheredd cyfartalog yn 0 gradd centigrade neu'n is, neu y rhagwelir y bydd, a hynny dros saith diwrnod yn olynol mewn gorsaf dywydd benodol.

Cewch ragor o wybodaeth am Daliadau Tywydd Oer ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith