Gwelliannau'r cartref
Os ydych yn berchen ar gartref neu’n denant preifat, efallai y gallwch wneud cais am help tuag at atgyweirio, gwella neu addasu eich cartref, ac i’ch helpu i gadw’ch annibyniaeth.
Gallai Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl helpu i dalu am newidiadau angenrheidiol i'ch cartref - fel lifftiau grisiau - fel eich bod yn gallu parhau i fyw'n annibynnol. Os oes gennych anabledd, efallai y gallwch gael grant. Bydd eich cyngor yn seilio hyn ar eich amgylchiadau. Bydd eich incwm a'ch cynilion yn effeithio ar y lefel o grant y gallwch ei gael.
Mae gan awdurdodau lleol hefyd bwerau disgresiwn eang i ddarparu helpu tuag at atgyweirio, gwella ac addasu. Gallai'r cymorth hwn fod ar ffurf grant, benthyciad neu ryddhau peth o werth eich cartref, neu fwy o help ymarferol fel gwybodaeth a chyngor ar atgyweirio.
Efallai y gall benthyciadau cost isel gan yr Ymddiriedolaeth Gwelliannau i'r Cartref fod ar gael i chi os ydych yn byw ar incwm isel, neu os nad oes gennych gynilion neu fuddsoddiadau. Pwysig: Os ydych am gael Grant Cyfleusterau i'r Anabl neu help arall tuag at atgyweirio neu wella o'ch awdurdod lleol, dylech gysylltu â nhw cyn dechrau unrhyw waith.
I gael rhagor o wybodaeth am Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a help arall y gallai'ch awdurdod lleol ei ddarparu ar gyfer atgyweirio, gwella ac addasu, cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu eich Asiantaeth Gwelliannau'r Cartref leol. Gallwch ddod o hyd i'ch awdurdod lleol ar wefan Directgov.
Os ydych yn berchen ar gartref neu'n denant i landlord preifat, bydd Asiantaethau Gwelliannau'r Cartref (weithiau'n cael eu hadnabod fel asiantaethau 'Care and Repair' neu 'Staying Put') yn eich cynghori ar sut i addasu, atgyweirio, gwella a chynnal a chadw'ch cartref. Mae hyn yn cynnwys adolygiad o'r opsiynau cartref sydd ar gael i chi, yn cynnwys p'un a oes gennych hawl i gael unrhyw help, budd-daliadau lles, gwasanaethau materion technegol a chymorth eraill y gallai fod eu hangen arnoch i aros yn eich cartref eich hun.
I gael manylion am eich Asiantaeth Gwelliannau'r Cartref leol, ymwelwch â gwefan Foundations, neu ffoniwch Care and Repair Cymru ar 029 2057 6286 ar gyfer Cymru neu Foundations ar 01457 891 909 ar gyfer Lloegr. Mae'r llinellau ar agor o 9.00am i 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
I gael rhagor o wybodaeth am fenthyciadau cost isel ar gyfer perchenogion tai ar wefan yr Ymddiriedolaeth Gwelliannau'r Cartref, ymwelwch â'u gwefan, neu ffoniwch nhw ar 0800 783 7569 ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'r llinell ar agor o 9.00am i 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.


