Taliad Angladd
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Gyngor neu fudd-daliadau penodol eraill, gallech gael help i dalu am angladd syml partner, perthynas agos neu ffrind agos. Telir hwn drwy'r Gronfa Gymdeithasol.
Os oedd y person a fu farw yn bensiynwr rhyfel, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael help gan yr Asiantaeth Cyn-filwyr gyda chost angladd sylfaenol os mai chi sy'n gyfrifol am dalu costau'r angladd.
Nid oes rhaid eich bod yn cael budd-daliadau i wneud cais. Fodd bynnag, os byddwch yn gwneud cais am Daliad Angladd, gallai hyn effeithio ar faint a gewch o'r Asiantaeth Cyn-filwyr. I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ffoniwch am ddim ar 0800 169 22 77 neu ymwelwch â gwefan yr Asiantaeth Cyn-filwyr
Ni fydd rhaid i chi dalu treth ar unrhyw Daliadau Angladd y gallech eu cael.
Mae'r Taliad Angladd yn talu cost ffioedd claddu neu amlosgi, ffioedd awdurdod lleol, rhai treuliau mewn amgylchiadau arbennig a hyd at £700 i dalu am gostau eraill, fel arch neu flodau.
Gallai cartref ac eiddo'r person sydd wedi marw ac arian o bolisïau yswiriant, Grantiau Angladd Pensiynwyr Rhyfel neu gynlluniau angladd wedi'u rhag-dalu effeithio ar y swm y gallech ei gael.
I wneud cais, mae angen i chi lenwi ffurflen SF200W. Gallwch gael ffurflen gais taliad angladd a rhagor o wybodaeth am daliadau angladd o wefan y Ganolfan Byd Gwaith neu o’r Gwasanaeth Pensiwn neu eich swyddfa nawdd cymdeithasol leol


