Gwneud ewyllys
Gall unrhyw un wneud ewyllys. Nid oes rhaid i chi wneud ewyllys, ond efallai y bydd arbenigwyr yn eich cynghori i wneud hynny.
Drwy wneud ewyllys byddwch yn gallu chi nodi pwy fydd yn elwa ar eich cartref a'ch eiddo (eich ystad) ar ôl eich marwolaeth. Bydd hefyd yn helpu i wneud yn siwr bod eich ystad, ar ôl talu unrhyw drethi a dyledion, yn cael ei throsglwyddo yn ôl eich dymuniad. Efallai y bydd angen cyngor cyfreithiol arnoch os ydych am eich rhan chi o unrhyw asedau a gyd-berchnogir gael ei etifeddu gan rywun heblaw'r cyd-berchennog arall.
Gallwch ddewis y bobl sy'n gyfrifol am drosglwyddo eich ystad. Gelwir y bobl hyn yn ysgutorion, a gallwch benodi ysgutorion drwy eu henwi yn eich ewyllys. Gall y llysoedd hefyd benodi pobl eraill i fod yn gyfrifol am gyflawni'r swydd hon.
Os na fyddwch yn gwneud ewyllys, bydd eich ystad yn cael ei throsglwyddo i gynllun a osodir yn y gyfraith. Bydd pwy fydd â hawl o dan y cynllun hwn (sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu dymuniadau'r person cyffredin) yn dibynnu pa berthnasau sydd ar ôl, os oes rhai.
Os ydych yn ystyried gwneud ewyllys, efallai y byddwch am gael help cyfreithiwr neu sefydliad gwirfoddol fel Cyngor ar Bopeth neu Age Concern. I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ymweld â gwefan Cyngor ar Bopeth neu wefan Age Concern


