Wedi ymddeol

Cysylltau perthnasol

Cyflwyniad

Aros yn annibynnol

Rydym wedi ehangu ein hamrywiaeth o wybodaeth yn yr adran hon o wefan Y Gwasanaeth Pensiwn. Os oes gennych unrhyw sylwadau am yr adran hon, rhowch wybod i ni. Ein nod yw eich helpu i aros yn annibynnol. Mae'r adran Arian a threth yn dweud wrthych am bensiynau'r wladwriaeth a help arall gan y Llywodraeth y gallech ei gael fel:

Gallwch hefyd gael gwybodaeth am fyw dramor a mathau eraill o help, megis:

  • Budd-dal Treth Gyngor a Budd-dal Tai
  • Benthyciadau Trefnu
  • Benthyciadau Argyfwng a
  • Grantiau Gofal Cymuned

Gartref yng Nghymru neu Loegr yn dweud wrthych am:

  • ddiogelwch cartref
  • cadw'ch cartref yn gynnes a
  • gwelliannau i'r cartref

Cewch ragor o wybodaeth am ganolfannau DU ar-lein a learndirect yn ein hadran ddysgu.

Yn yr adran gwasanaethau cyfreithiol trosedd a diogelwch, gallwch gael gwybodaeth am:

  • gael gwybodaeth a chyngor cyfreithiol
  • gwarchod cymdogaeth a
  • chymorth i ddioddefwyr

Cewch ragor o wybodaeth am docynnau bws a thrwyddedau gyrru rhatach yn ein hadran Teithio a hamdden

Cewch ragor o wybodaeth am sut i ymwneud â gwaith gwirfoddol ac am y Fargen Newydd a'r Ganolfan Byd Gwaith yn ein hadran Gwaith gwirfoddol a gwaith â thâl

Os ydych wedi colli rhywun agos, gallwch gael gwybodaeth am:

  • wneud ewyllys
  • treth etifeddiant
  • Taliad Angladd a
  • Thaliad Profedigaeth

Dilynwch y cysylltiadau ar ochr chwith y dudalen i gael rhagor o wybodaeth

Wyddech chi...?

Gall pobl dros 75 oed wneud cais am Drwydded Deledu am ddim?

Gweler ein hadran Teithio a hamdden i gael rhagor o wybodaeth

Anafiadau yn gysylltiedig â gwaith

Os ydych yn anabl oherwydd damwain yn y gwaith, neu os oes gennych afiechyd neu fyddardod a achoswyd gan swydd rydych wedi'i gwneud, efallai y gallwch wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol

Cewch ragor o wybodaeth am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith.