Wedi ymddeol

Cysylltau perthnasol

Cysylltiadau defnyddiol

Ni fydd angen i chi dalu am gostau galwadau ffôn sy'n dechrau gyda 0800 neu 0808. Byddwch yn talu cyfraddau lleol ar gyfer rhifau sy'n dechrau gyda 0845. Os byddwch yn ffonio o ffôn symudol, efallai y bydd costau yn amrywio yn dibynnu ar eich darparwr rhwydwaith. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cyfraddau galwadau cenedlaethol am rifau eraill yn dibynnu ar ble rydych yn byw.

Galw Iechyd Cymru
Ffôn 0845 46 47

I gael cyngor a gwybodaeth iechyd, ymwelwch â gwefan Galw Iechyd Cymru

Llinell Archebu Cyhoeddiadau'r Adran Iechyd
Ffôn 0870 1555 455

I gael llenyddiaeth a gyhoeddwyd gan yr Adran Iechyd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau iechyd ar wefan yr Adran Iechyd.

Gofal nyrsio mewn cartrefi gofal a ariennir gan y GIG
Ffôn 029 2082 5292 (Cymru)
neu 0870 1555 455 (Lloegr)

I gael copi am ddim o'r daflen, Gofal mewn Cartrefi Nyrsio a Ariennir gan y GIG - beth y mae'n ei olygu i chi.

Llinell cyngor costau iechyd
Ffôn 0845 850 1166

I gael cyngor ar bwy sy'n gymwys i gael help gyda phob cost iechyd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gostau'r GIG ar wefan yr Adran Iechyd.

Swyddfa'r Warcheidwaeth Gyhoeddus
Ffôn 0845 330 2900
(Ffôn testun 020 7664 7755)

Mae Swyddfa'r Warcheidwaeth Gyhoeddus yn darparu gwasanaethau diogelu ariannol i bobl sy'n feddyliol analluog i reoli eu materion ariannol.

Llinell Gyngor Cynhesrwydd Gaeaf
Ffôn 0800 085 7000
(Ffôn testun 0800 085 7857)

Cyngor a gwybodaeth ar gyfer pobl hyn a phobl ddiamddiffyn am gadw'n gynnes ac yn iach yn ystod y gaeaf. Gwybodaeth am fudd-daliadau a grantiau ar gyfer gwelliannau ynni-effeithlon i'r cartref. Ffoniwch i gael copi am ddim o ganllaw Keep Warm, Keep Well yr Adran Iechyd. (Mae cyfieithydd ar gael i roi cyngor yn eich iaith eich hun os bydd angen hwn arnoch.)

Cewch ragor o wybodaeth am Daliadau Tanwydd Gaeaf ar wefan Y Gwasanaeth Pensiwn.

Cynhalwyr y DU
Llinell Cynhalwyr
Ffôn 0808 808 7777
Cynhalwyr (Cymru)
Ffôn 02920 811370

Mae'r gymdeithas yn darparu gwybodaeth am fudd-daliadau a sut i gael gafael ar wasanaethau cymorth o fewn eich ardal. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am help i ofalwyr ar wefan Cynhalwyr y DU.

Cynhalwyr (Cymru)
Ffôn 02920 811370

DIAL UK
Ffôn 01302 310123
Anabledd Cymru
Ffôn 02920 887325

I gael cyngor a gwybodaeth am anabledd, ymwelwch â gwefan DIAL UK.

Anabledd Cymru
Ffôn 02920 887325

Sefydliad Byw i'r Anabl
Ffôn 0870 603 9177

I gael cyngor a gwybodaeth am offer ar gyfer bywyd pob dydd, ymwelwch â gwefan y Sefydliadu Byw i'r Anabl

Ymddiriedolaeth Anchor
Ffôn 0845 775 8595

I gael cyngor a help ar gyfer y pob hyn sydd ag anabledd corfforol neu feddyliol, ymwelwch â gwefan Ymddiriedolaeth Anchor.

Deafblind UK
Ffôn 0800 132 320

Ar gyfer pobl sy'n fyddar ac yn ddall. Ymwelwch â gwefan Deafblind UK i gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Deafblind UK

RNID
Ffôn 0808 808 0123 (Ffôn testun 0808 808 9000)

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion
Ffôn 0845 766 9999

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar
Ffôn 0870 60 50 123
(Ffôn testun 0870 603 3007)

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar

Mencap
Ffôn 020 7454 0454

Mae Mencap yn rhoi cymorth i bobl sydd ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Mencap

SANE
Saneline
Ffôn 0845 767 8000

I gael cyngor, cymorth a gwybodaeth i ddioddefwyr salwch meddwl a'u teuluoedd, gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan SANE

Asiantaeth Ffioedd Cartrefi Nyrsio
(NHFA)
Ffôn 0800 99 88 33

I gael cyngor a gwybodaeth am ddim ar gael gofal a thalu amdano.