Wedi ymddeol

Cysylltau perthnasol

Canllaw i hawliau a gwasanaethau anabledd

Mae'r Llywodraeth wedi cynhyrchu HB6W Canllaw Ymarferol i Bobl Anabl neu Ofalwyr. Gallai hwn fod yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd ag anabledd neu unrhyw un sy'n gofalu am berthynas neu ffrind anabl. Mae'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf, gywir am eich hawliau a'r gwasanaethau y gallwch eu defnyddio. Mae'n cwmpasu popeth o arian i wyliau, ac o dai i amser hamdden.

Mae'r canllaw yn cwmpasu gwasanaethau a ddarperir gan lywodraeth ganolog a lleol a sefydliadau gwirfoddol fel Age Concern a'r Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Anabledd ac Adferiad (RADAR).

Gallwch ddarllen neu argraffu 'HB6W Canllaw Ymarferol i Bobl Anabl neu Ofalwyr' o wefan yr Adran Iechyd. Gallwch hefyd ffonio llinell archebu Cyhoeddiadau'r Adran Iechyd ar 0870 1555 455. Mae'r llinell ar agor o 8.00am i 6.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gallwch hefyd ysgrifennu at:
Department of Health
PO Box 777
London
SE1 6XH

Canllaw i atwrneiaeth parhaol

Gallai hwn fod ar eich cyfer os ydych am ddewis pwy y dylai ddelio â’ch materion ariannol neu eich lles personol os na fyddwch yn gallu gwneud hynny yn y dyfodol.

Beth ydyw?

Proses gyfreithiol ydyw lle byddwch yn penderfynu trosglwyddo, i rywun o’ch dewis eich hun, y pwer i ddelio â’ch materion ariannol neu les personol. Gallant ddefnyddio’r pwer ar unwaith os mai dyna beth fyddwch ei eisiau, neu gallwch wneud yn glir y dylent ond defnyddio atwrneiaeth parhaol os dewch yn feddyliol analluog i reoli eich materion yn y dyfodol.

Os dewch yn feddyliol analluog i reoli eich materion neu lles personol, bydd angen i’r person rydych wedi’i benodi gofrestru’r atwrneiaeth parhaol gyda’r Llys Nodded. Os na fydd atwrneiaeth parhaol, byddai angen i’r Llys Nodded benodi rywun arall (sy’n cael ei adnabod fel derbynnydd) i reoli eich materion ariannol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am atwrneiaeth parhaol ar wefan y Swyddfa’r Warcheidwaeth Gyhoeddus

Gallwch ddarllen neu argraffu canllaw i atwrneiaeth parhaol o wefan Swyddfa y Warcheidwaeth Gyhoeddus, neu ffonio Swyddfa'r Warcheidwaeth Gyhoeddus ar y llinell llenyddiaeth cwsmeriaid i gael copi am ddim ar 0845 330 2900. Mae'r llinell ar agor o 9.00am i 6.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gallwch hefyd ysgrifennu at:

Office of the Public Guardian
Archway Tower
2 Junction Road
London
N19 5SZ