Wedi ymddeol

Cysylltau perthnasol

Help gyda chostau iechyd

Os ydych yn 60 oed neu'n hyn, gallai fod hawl gennych i gael help gyda chostau amrywiol sy'n gysylltiedig ag iechyd.

Os ydych yn 60 oed neu'n hyn, gallwch gael presgripsiynau a phrofion llygaid y GIG am ddim (ac mae archwiliadau deintyddol am ddim yng Nghymru).

Os ydych hefyd yn cael elfen warantedig y Credyd Pensiwn, efallai y gallwch chi a’ch partner gael triniaeth ddeintyddol y GIG am ddim, wigiau a chymhorthion ffabrig am ddim. Efallai y gallwch hefyd gael talebau tuag at gost sbectol neu lensys cyffwrdd ac ad-daliadau ar gyfer costau teithio angenrheidiol i ysbytai ar gyfer triniaeth GIG (yn cynnwys archwiliadau.) Os yw'ch partner o dan 60 oed, efallai y gallant hwy hefyd gael presgripsiynau a phrofion llygaid am ddim.

Os oes gennych gynilion o £12,000 neu lai, gallwch wneud cais drwy Gynllun Incwm Isel y GIG i gael help gyda chostau amrywiol sy'n gysylltiedig ag iechyd. Os ydych yn byw yn barhaol mewn cartref gofal, gallwch wneud cais am help drwy'r cynllun, hyd yn oed os oes gennych gynilion o hyd at £20,000 (2004/2005).

Gallwch gael rhagor o fanylion am gael help gyda chostau iechyd, a Chynllun Incwm Isel y GIG, yn y daflen HC11W A oes gennych hawl i gael help gyda chostau iechyd?, y gallwch ei darllen a'i hargraffu ar wefan yr Adran Iechyd. Neu gallwch gysylltu â Llinell Cyngor Costau Iechyd ar 0845 850 1166. Mae'r llinellau ar agor o 8.00am i 6.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gallwch hefyd gael taflen HC11 Help gyda chostau iechyd drwy ysgrifennu at:

Department of Health
PO Box 777
London
SE1 6XH

neu ffonio 08702 555 455. Mae'r llinellau ar agor o 8.00am i 6.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gostau'r GIG ar wefan yr Adran Iechyd