Wedi ymddeol

Cysylltau perthnasol

Gwarchod cymdogaeth

Gwarchod Cymdogaeth yw un o'r mentrau atal trosedd mwyaf erioed. Gall unrhyw un ymwneud â'r cynllun Gwarchod Cymdogaeth.

Mae'n gynllun sy'n galluogi pobl leol i helpu'r heddlu i ostwng trosedd. Mae hefyd yn annog pobl i fod yn gymdogion da a dod â chymunedau yn agosach at ei gilydd.

Arweinir pob cynllun gan gydlynydd gwirfoddol sy'n dod â'u cymdogion ynghyd i drafod sut y gallant wneud eu strydoedd yn llefydd mwy diogel i fyw ynddynt. Maent yn cadw mewn cysylltiad agos â'r heddlu lleol i rannu gwybodaeth a chyngor.

Cewch ragor o wybodaeth am sut i gymryd rhan ar wefan Gwarchod Cymdogaeth

Gallwch hefyd gysylltu â'ch gorsaf heddlu leol. Mae'r cyfeiriad a'r rhif yn y llyfr ffôn.